Enwebu safleoedd, gofyn a chyfrannu coed

Gallwch ein helpu i blannu mwy o goed ledled Caerdydd.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau ar gyfer ble yr hoffech weld mwy o goed o amgylch Caerdydd, pa fath o blannu, a grwpiau cymunedol i’w cynnwys.

E-bostiwch eich awgrymiadau at coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk a rhoi gwybod i ni am y canlynol (os yw’n bosibl):

  • Enw’r safle
  • Cyfeiriad (gan gynnwys cod post – os yn bosib dylech gynnwys y cyfeirnod “Pa dri gair/What three words” os yn bosibl)
  • Math o safle (e.e. stryd, man agored gwyrdd, parc, coetir)
  • Unrhyw ffafriaeth i fathau o blannu neu rywogaethau (e.e. coed ffrwythau, rhywogaethau brodorol, coed â llawer o flodau, gwrychoedd)
  • Pwy sy’n berchen ar y safle
  • A oes unrhyw grwpiau’n defnyddio’r safle (e.e. clybiau chwaraeon, ysgolion, grwpiau amgylcheddol neu gymunedol)
  • Unrhyw ffotograffau o’r safle

Byddwn yn cwblhau ymarfer bwrdd gwaith cychwynnol i benderfynu a allai’r safle a awgrymir fod yn addas ar gyfer plannu coed.  Os bydd safleoedd enwebedig yn pasio’r meini prawf cychwynnol, byddwn yn gwirio gwerth ecolegol y safle, gwasanaethau (e.e. dŵr, telathrebu), ac a oes angen caniatâd.

Efallai y byddwn yn penderfynu nad yw’r safle’n addas ar gyfer plannu coed oherwydd sawl ffactor; gan gynnwys maint, gwrthdaro â defnyddiau eraill y safle, a gwrthdaro â chynefinoedd eraill sy’n bodoli sydd eisoes yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth. Os penderfynwn fod y safle’n anaddas, bydd cyfleoedd eraill i ymuno â ni i blannu coed mewn safleoedd ledled Caerdydd.

Os caiff y gwiriadau hyn eu pasio, byddwn wedyn yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i benderfynu ar ddyluniadau plannu a neilltuo coed i’w plannu.

Byddwn yn cyflwyno hysbysiadau safle lle bo hynny’n bosibl er mwyn sicrhau bod trigolion lleol yn cael gwybod am gynlluniau plannu ac yn annog pobl i gymryd rhan.

Byddwn wedyn yn cadarnhau dyddiad plannu addas o fewn y tymor plannu coed nesaf (hydref – gwanwyn) neu’n rhoi’r safle ar ein rhestr o safleoedd i’w plannu yn y dyfodol.

Sylwch y gall plannu yn y strydlun gymryd mwy o amser i’w gwblhau ac weithiau ni all fod yn bosibl oherwydd newidiadau sylweddol sydd eu hangen i’r seilwaith.  Peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag enwebu strydoedd oherwydd lle bo’n bosibl byddwn yn archwilio atebion creadigol i gyflwyno coed i strydoedd lle nad oes fawr o gyfle i’w cyflwyno i balmentydd neu ffyrdd.   Er enghraifft, drwy annog aelwydydd i blannu coed yn eu gerddi blaen a/neu osod blychau plannu dros dro gyda choed lled-aeddfed.

Rydym yn annog aelwydydd i ofyn am goed am ddim i blannu yn eu gerddi blaen neu gefn.  Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd heb lawer o gyfleoedd i blannu coed yn y strydlun neu os oes prinder parciau a mannau gwyrdd cyfagos.

Sylwer mai impnau ifanc 60-80cm (coed bach) yw’r rhain. Gellir plannu coed yn y ddaear neu mewn potiau a gallwn roi cyngor ar rywogaethau coed ac ôl-ofal.

Mae’r rownd nesaf o geisiadau ar agor i gasgliadau yn hydref 2023, e-bostiwch am fwy o wybodaeth: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk

Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n bodoli eisoes sydd â phrofiad o gadwraeth amgylcheddol, gallwch ofyn am goed i’w casglu a’u plannu mewn safleoedd rydych chi’n gofalu amdanynt.

Gallwn hefyd ddarparu coed ar gyfer grwpiau newydd, dibrofiad ac anffurfiol, nodwch a ydych yn perthyn i’r categori hwn gan y gallwn drefnu cymorth ychwanegol i helpu gyda chyngor dylunio, plannu ac ôl-ofal.

Mae cymorth ar gael i grwpiau cymunedol, elusennau, grwpiau ffydd, sgowtiaid, clybiau chwaraeon, a mwy.

Os eos gennych ddiddordeb mewn coed newydd i’ch man cymunedol neu i ymuno â ni am ddigwyddiadau plannu awyr agored, e-bostiwch am fwy o wybodaeth: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk

Rydym yn annog ysgolion i gymryd rhan naill ai drwy ofyn am blannu coed newydd ar eu tir neu ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau plannu coed allanol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn coed newydd ar gyfer eich ysgol neu mewn ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau plannu allanol, e-bostiwch am ragor o wybodaeth: coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk

Mae croeso i unigolion a grwpiau gyfrannu at y prosiect drwy roi coed bach neu brynu coed o restr gymeradwy o gyflenwyr.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu coed i’r prosiect, e-bostiwch am ragor o wybodaeth:  coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y camau sy’n gysylltiedig ag enwebu safleoedd i blannu coed, gweler ein coeden benderfyniadau ar enwebu safle

Safle a enwebir

  • Ymholiad
  • Ymgynghoriad
  • Cydweithwyr
  • Drwy gydol y flwydddyn

Gwiriadau bwrdd gwaith

  • Lleoliad ac addasrwydd
  • Math y safle(e.e. strydoedd, lleiniau ymyl, parciau, coetiroedd)
  • Tystiolaeth o blannu blaenorol/cyfyngiadau
  • Perchnogaeth
  • Gwanwyn

Arolwg safle

  • Ecoleg
  • Mynediad
  • Defnydd y safle
  • Haf

Gwiriadau

  • Gwasanaethau
  • Rhanddeiliaid (gan gynnwys hysbysiadau safle)
  • Defnydd yn y dyfodol
  • Haf

Dyluniad plannu

  • Opsiynau plannu (brodorol, coetir gwlyb, perllan, adddurniadol)
  • Opsiynau coed stryd (coeden newydd mewn hen bwll, blychau plannu dros dro, gerddi blaen, newidiadau i seilwaith)
  • Coed iawn, lle iawn (gan gynnwys rhywogaethau, maint, bodloni anghenion rhanddeiliaid, diogelu at y dyfodol)
  • Coed wrth gefn
  • Haf

Dyddiad plannu

  • Tymor plannu nesaf neu dymor yn y dyfodol
  • Hyrwyddo a chynnwys rhanddeiliaid
  • Haf – Hydref

Digwyddiad plannu

  • Cynnwys gwirfoddolwyr
  • Hydref – Gwanwyn

Monitro

  • Logio yn Arbortrack (system ddigidol ar gyfer cofnodi coed a chynnal a chadw)
  • Gwarcheidwaid coed (gwirfoddolwyr lleol yn helpu i ofalu am goed newydd)
  • Cwmpas i blannu ymhellach
  • Drwy gydol y flwyddyn

Gweler hefyd:

Beth yw Coed Caerdydd? | Enwebu safleoedd, gofyn a chyfrannu coed | Cyfleoedd gwirfoddoli

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd