Croeso i Awyr Agored Caerdydd
Pwrpas Awyr Agored Caerdydd yw defnyddio partneriaeth a chydweithredu i hyrwyddo’r amrywiaeth gyfoethog o ddigwyddiadau awyr agored, lleoedd a gweithgareddau sydd gan y ddinas i’w cynnig, o’i gymharu â delwedd fwy cyfarwydd Caerdydd fel prifddinas gosmopolitan sy’n adnabyddus oherwydd ei thraddodiad rygbi a chwaraeon, lleoliadau diwylliannol, siopa a bywyd nos.
Mae’r porth hwn yn darparu dolenni at ystod eang o wefannau, sy’n galluogi trigolion ac ymwelwyr i weld pa gyfleoedd awyr agored sydd ar gael yn y ddinas a’i chyffiniau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y ffordd y caiff darpariaeth awyr agored ei chynllunio, ei hyrwyddo a’i rheoli yng Nghaerdydd, efallai byddwch yn dymuno dilyn y dolenni i’r strategaeth a’r dogfennau polisi canlynol.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT)
Mae CGHT 2020-2030 Caerdydd yn strategaeth 10-mlynedd sy’n cynnwys nodau a thasgau allweddol fel rhan o’r gofynion statudol dan Adran 61 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) 2020-30 (3.28mb PDF)