Prosiect Coetiroedd Gogledd Caerdydd

Mae Coetiroedd Gogledd Caerdydd yn cynnwys rhywogaethau a chynefinoedd prin a sensitif.  Mae rhai o’r coetiroedd yn cael eu gwarchod o dan ddynodiadau cadwraeth. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyflwr y safleoedd hyn wedi dirywio oherwydd cynnydd yn eu defnydd hamdden.  Bu difrod i gynefin gwerthfawr y gwyddys ei fod yn cefnogi planhigion coetir prin a rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys Pathewod.

Mae Cyngor Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio gyda grwpiau defnyddwyr, tirfeddianwyr a rheolwyr tir i godi ymwybyddiaeth a rheoli mynediad i’r safleoedd gwarchodedig hyn.

Cardiff Council
The Wildlife Trusts

Math o Ddynodiadau Cadwraeth

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

SoDdGA yw’r safleoedd pwysicaf ar gyfer treftadaeth naturiol Cymru.  Maent wedi’u gwarchod yn fawr i ddiogelu ystod, ansawdd ac amrywiaeth cynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol ym mhob rhan o Gymru.  Maent yn gonglfeini gwaith cadwraeth, gan ddiogelu craidd ein treftadaeth naturiol.

Mae mwy na 1,000 SoDdGA yng Nghymru, yn  cwmpasu tua 12% o arwyneb y wlad.

  • Coedwig Ganol
  • Cwm Nofydd
  • Wenallt

Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)

Mae’r dynodiad ACA yn cynnig lefel arall o ddiogelwch ar gyfer safleoedd sydd hefyd yn SoDdGA. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gyfrifol i’r Undeb Ewropeaidd am sicrhau bod ACAau yn parhau mewn cyflwr sy’n ffafriol i’r cynefinoedd a’r rhywogaethau pwysig y maent wedi’u dynodi ar eu cyfer.

  • Coedwig Ffawydd Caerdydd

Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCN)

Mae’r rhain yn safleoedd pwysig lleol sydd o werth bioamrywiaeth uchel oherwydd y cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n bresennol. Er nad ydynt wedi’u diogelu’n gyfreithiol, bydd y safleoedd hyn o werth cadwraeth natur sylweddol ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae o ran cyrraedd targedau bioamrywiaeth a chyfrannu at fanteision ar raddfa fawr i blanhigion a blodau gwyllt.

  • Ty’n y Coed

Nod y Prosiect

  1. Diogelu a rheoli safleoedd ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt
  2. Mwy o ymgysylltu â’r cyhoedd, cysylltedd â natur, a manteision llesiant.
  3. Mae mynediad cyhoeddus yn cael ei wella gan ystyried anghenion ystod eang o ddefnyddwyr a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â gwrthdaro.  Llwybrau’n cael eu ffurfioli ar gyfer gwahanol grwpiau defnyddwyr i gael mynediad i’r coetiroedd a’u mwynhau’n ddiogel ac yn gyfrifol

Diweddariadau Prosiect

  • Mae arolwg Ecolegol wedi’i gwblhau ar gyfer y coetiroedd sy’n nodi ardaloedd sensitif y mae angen eu hamddiffyn fwyaf ac ardaloedd llai sensitif a allai gefnogi gweithgareddau hamdden.
  • Arolwg Defnyddwyr Coetiroedd – Ymgynghoriad Cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2020
  • Gweithdai ar-lein gyda rhanddeiliaid a Chyfarfodydd Safle gyda grwpiau defnyddwyr
  • Arwyddion newydd – Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y coetiroedd ac aros ar y llwybrau. Bydd y rhain yn cael eu postio ar y safle yn fuan.
  • Ar hyn o bryd mae Swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i greu map o lwybrau presennol a llwybrau arfaethedig ar gyfer aml ddefnyddwyr. Bydd hyn yn helpu i flaenoriaethu gwelliannau i lwybrau sy’n bodoli eisoes, gan nodi cyfleoedd ar gyfer llwybrau newydd, ac ail-alinio neu ddileu  llwybrau sy’n mynd drwy gynefinoedd bywyd gwyllt sensitif.
Be Wise in the Woods Poster
A couple walking through woodland

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd