Gemau yn yr awyr iach

Dyma rai gemau syml llawn hwyl i chi eu chwarae gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

  • Un person i fod yn Mr Blaidd. Mr Blaidd i fynd i pen arall yr ystafell neu’r cae chwarae heb gwynebu y chwaraewr.
  • Chwaraewr yn gweddi “beth yw’r amser Mr Blaidd”. Mr Blaidd yn ateb mewn un ffordd o ddau.
  • Falle amser cloc sef “ 3 o’r gloch”. Chwaraewr yn cymryd 3 cam ymlaen. Mr Blaidd falle yn dweud yr amser cwpwl o weithiau a pawb yn camu ymlaen.
  • Neu fydd Mr Blaidd yn gweiddi “Amser cinio”
  • Mr Blaidd yn troi rownd ac yn ceisio dal un o’r chwaraewr cyn iddyn nhw cyrraedd y man dechrau.
  • Os yn ei dal, nhy fydd Mr Blaid yn y gêm nesaf.

Bydd angen y canlynol arnoch

  • Bat
  • Pêl
  1. Penderfynwch pwy fydd chwaraewr 1, chwaraewr 2 a’r chwaraewyr maes
  2. Chwaraewr 1 i daflu’r bêl, rhaid i chwaraewr 2 ddefnyddio’r bat i daro’r bêl
  3. Mae’r chwaraewyr maes yn dal y bêl ac yn anelu at daflu’r bêl at goesau’r batiwr. Os bydd y chwaraewyr maes yn colli coesau’r batiwr, rhaid iddynt barhau i geisio wneud hynny. Os ydynt yn llwyddo i daro coesau’r batiwr gyda’r bêl, mae’r batiwr allan a’r sawl sy’n taro coesau’r batiwr yw’r nesaf i fatio.

Beth bydd ei angen?

  • Llinyn
  • Siswrn
  • Mwgwd i’r llygaid

 

  1. Defnyddiwch linyn i greu drysfa gyda gwahanol uchderau. Gallwch wneud hyn yn eich gardd neu mewn parc.
  2. Rhowch gyfle i’r chwaraewr edrych ble mae’r llinynnau. Ar ôl i’r chwaraewr edrych, rhowch fwgwd dros ei lygaid, yna torrwch rai o’r llinynnau neu eu gadael i gyd yr un peth i ddrysu’r chwaraewr.
  3. Dylai chwaraewr 2 ddefnyddio ei lais i gyfeirio’r person sy’n gwisgo’r mwgwd, gan roi cyfarwyddiadau fel ‘cama drosodd, cama o dan a cherdda ‘mlaen’.
  4. Mae angen i chwaraewr 1 ei gwneud hi o un ochr i’r ddrysfa i’r llall gyda chymorth chwaraewr 2 tra’i fod yn gwisgo’r mwgwd.
  • Mae un person yn cael ei ddweud i fod yn Dai, a’r lleill yw’r chwaraewyr
  • Gan sefyll gerbron y grŵp, mae Dai yn dweud wrth y chwaraewyr beth i’w wneud
  • Ond, caiff y chwaraewyr ond dilyn cyfarwyddiadau sy’n dechrau â’r geiriau “Mae Dai yn dweud”
  • Os yw Dai yn dweud “Mae Dai yn dweud cyffyrddwch â’ch trwyn” yna rhaid i chwaraewyr gyffwrdd eu trwynau.
  • Ond yw Dai ond yn dweud “Cyffyrddwch â’r trwyn” ddylech chi ddim cyffwrdd â’ch trwyn
  • Mae’r rhai sy’n gwneud rhywbeth heb i Dai ddweud “Mae Dai yn dweud…” yn gyntaf allan o’r gêm.
  • Y person olaf ar ôl yw’r enillydd a nhw fydd Dai yn y gêm nesaf
  • Penderfynwch pwy fydd chwaraewr 1 a phawb arall i eistedd mewn cylch
  • Chwaraewr 1 i fynd o amgylch y cylch a thapio pen pob chwaraewr gan ddweud “Hwyden”. Rhaid i’r chwaraewr ddewis rhywun i’w herio a dweud “Gŵydd” wrth dapio ei ben
  • Yna, rhaid i’r ddau chwaraewr redeg o amgylch y cylch a’r chwaraewr cyntaf yn ôl i’r gofod gwag sy’n ennill.
  • Y chwaraewr olaf sy’n sefyll yw’r chwaraewr nesaf i fod yn chwaraewr un

Syniadau ar gyfer chwarae a gweithgareddau

Yn y Gwasanaethau Chwarae i Blant, rydym wedi llunio rhai syniadau a gweithgareddau chwarae ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae yna lawer o wahanol syniadau gan gynnwys chwarae thematig, celf a chrefft, taflenni gweithgareddau, gemau yn cynnwys geiriau, posau, gemau awyr agored a dan do.

Gwyliwch y gweithgareddau ar Caerdydd.gov.uk

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd