Bywyd Gwyllt a Bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth – neu amrywiaeth fiolegol – yw’r amrywiaeth o fywyd ar y Ddaear. Mae’n cynnwys yr holl blanhigion, anifeiliaid a chynefinoedd rydym yn eu gweld o’n cwmpas, ac mae’n golygu yr un peth â ‘natur’ neu ‘fywyd gwyllt’.

Mae gan Gaerdydd lawer o blanhigion, anifeiliaid a chynefinoedd. Er mwyn dysgu am fioamrywiaeth yn y Ddinas, gweler ein poster rhyngweithiol Bioamrywiaeth yng Nghaerdydd – 4.09mb.

Fel arall, edrychwch ar ein llyfryn Bioamrywiaeth yng Nghaerdydd – 5.3mb, neu cysylltwch ag Ecolegydd y Sir i gael copi caled.

Pam mae Bioamrywiaeth yn bwysig

Mae bioamrywiaeth yn ffurfio blociau adeiladu amgylchedd naturiol iach.  Yr amgylchedd hwn yw ein system cynnal bywyd ar y ddaear, ac mae’n darparu bwyd, dŵr glân ac awyr glân i ni.

Mae’r rhain ymhlith y gwasanaethau mae’r amgylchedd naturiol yn eu rhoi i ni.  Gallwn ystyried bod y rhain a gwasanaethau eraill yn perthyn i bedwar math gwahanol:-

Cynnal – gan gynnwys cynhyrchu ocsigen, cylchredeg maetholion a ffurfio pridd sy’n ategu’r ‘gwasanaethau’ eraill

Rheoleiddio – gan gynnwys rheoleiddio’r hinsawdd, amddiffyn yn erbyn llifogydd a phuro dŵr.

Darpariaeth – darparu bwyd, tanwydd, ffibr a dŵr i ni.

Gwasanaethau diwylliannol – ein mwynhad o fywyd gwyllt a chefn gwlad, addysg, hamdden, ysbrydoliaeth a harddwch naturiol.

 

I ddysgu rhagor am yr hyn y mae bioamrywiaeth yn ei wneud i chi, edrychwch ar ein poster Amrywiaeth Bywyd ar y Ddaear – 2.8mb rhyngweithiol.

Gwarchod Bioamrywiaeth Caerdydd

Mae Caerdydd yn cydnabod ei rôl o ran amddiffyn Bioamrywiaeth, trwy ei dyletswyddau a thrwy’r broses Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio tuag at ymagwedd Rheoli Adnoddau Naturiol fwy integredig a fydd yn cymryd lle y broses Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth leol.

Rheoli ein glaswelltiroedd ar gyfer bioamrywiaeth

Wildlife, birds and bees

Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor i adolygu sut rydym yn rheoli ein glaswelltiroedd mewn parciau, mannau agored a lleiniau ymyl.

Partneriaeth Natur Leol Caerdydd

Partneriaeth rhwng Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, canolfannau cofnodion amgylcheddol lleol, a phob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol yng Nghymru yw Partneriaeth Natur Leol (PNL) Cymru.

Mae natur yn rhyfeddol ac ni allwn oroesi hebddo, ond mae’r amgylchedd naturiol yn dirywio a’r manteision y mae’n eu sicrhau. Nod prosiect PNL Cymru yw helpu i wrthdroi’r dirywiad hwn a hyrwyddo gwerth byd natur.

Drwy adeiladu rhwydwaith adfer natur ar draws Cymru, cynnwys pobl a chymunedau, busnesau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn camau ymarferol a chynllunio strategol, gallwn greu Cymru wydn a chyfoethog ei natur.

Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd wedi cael ei sefydlu i gefnogi a hyrwyddo gweithgareddau i ddiogelu a gwella byd natur ar draws y ddinas ac mae’n agored i bawb.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brosiect PNL Cymru neu os ydych am ymuno â rhestr bostio PNL Caerdydd i gael diweddariadau i’r prosiect, cysylltwch â’n cydlynydd PNL;

Samantha Eaves
Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol
Canolfan Gadwraeth Fferm y Fforest
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7JJ

(029) 22330235

Bioamrywiaeth@caerdydd.gov.uk

Ynys Echni

Mae’r ynys fechan hon, sy’n llai na hanner milltir o led, yn em gudd ddiddorol iawn ym Môr Hafren. Mae Ynys Echni yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur leol. Mae Project Ynys Echni yn gwarchod nodweddion naturiol a diwylliannol yr Ynys sy’n cynnwys barics o oes Fictoria, nythfeydd adar y môr a bynceri adeg rhyfel.

Gallwch fynd ar daith diwrnod mewn cwch i’r Ynys neu hyd yn oed aros dros nos. Mae teithiau diwrnod yn para tua 5 awr ac yn cynnwys taith dywys sy’n dangos yr holl fywyd gwyllt, adeiladau a phwyntiau diddorol ar yr ynys i chi. Ar ddiwedd eich taith, gallwch hefyd fwynhau diod haeddiannol yn y ‘Gull and Leek’, sef y dafarn fwyaf deheuol yng Nghymru! Ac ymweld â’r siop sy’n stocio anrhegion, cardiau post a byrbrydau.

Os hoffech chi ymweld â’r ynys, ewch i www.ynysechni.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Delweddau o Ynys Echni gan: Gareth Johns

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd