Cyhoeddiadau Cefn Gwlad

Mae tua 200km o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghaerdydd yn cysylltu’r holl ardaloedd gogleddol – y mae rhai ohonynt ar dir uchel fel Pentyrch, Y Garth, Tongwynlais, Y Wenallt, Thornhill a Llys-faen.

Mae amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yng Nghaerdydd y gellir dod o hyd iddynt ledled y ddinas a’i chefn gwlad, mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd. Edrychwch ar rai o’r llwybrau isod i ddarganfod mwy ynghylch yr hanes a’r bywyd gwyllt sydd ar garreg eich drws!

Y Codau Cefn Gwlad Defnyddiwch y teulu o Godau Cefn Gwlad i’ch helpu i baratoi a mwynhau ymweliadau diogel â chefn gwlad

Taith Taf

Mae nifer o lefydd i ymweld â nhw ar hyd y llwybr. Arhoswch ennyd i edrych a gwrando ar y bywyd gwyllt – fe synnwch faint sydd yno. Mae yna hefyd nifer o ddarnau Celf Gyhoeddus arbennig, o’r Llwybr Cerfluniau yn Fforest Fawr i’r cerfluniau ym Mae Caerdydd.

Llwybr Elái

Mae nifer o nodweddion hanesyddol ac archeolegol diddorol ar hyd Llwybr Elái.  Mae’r rhain yn cynnwys Gorsaf Bwmpio Edwardaidd, olion fila Rufeinig a’r Gerddi a’r Castell yn Amgueddfa Werin Cymru.

Llwybr Rhymni

Os ewch am dro ar hyd yr afon fe welwch o hyd lawer o adeiladau difyr a nodweddion sy’n rhoi cliwiau i chi am orffennol Caerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladau rhestredig sydd â hanes lliwgar ac eglwys sy’n olrhain ei chysylltiadau i’r bumed ganrif.

Llwybr Nant Fawr

Roedd Nant Fawr yn fawr iawn unwaith, ac yn gorchuddio ardal eang o dir. Fe’i lleihawyd yn afon fechan pan godwyd twnnel Rheilffordd Caerffili a’r rheilffordd i Lys-faen. Mae ei llwybr drwy galon y ddinas yn parhau i ddarparu coridor gwyrdd i bobl ei fwynhau. Erbyn hyn mae yna gasgliad amrywiol o lecynnau agored ac mae’n cuddio hanes cyfoethog.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd