Pam Cerdded?

Buddiannau Cerdded

Mae cerdded bywiog cyson yn gallu helpu pobl i deimlo’n well mewn sawl ffordd:

Mae’n gyfeillgar a chymdeithasol.
Mae am ddim, yn digwydd yn aml ac yn hwyliog.
Gall eich cynorthwyo i golli pwysau.
Gall eich cynorthwyo i wella eich iechyd cyffredinol.
Gall helpu pobl i fynd allan a chymysgu gyda phobl leol eraill.

Wyddech chi fod cerdded yn fywiog am 30 munud ar 5 diwrnod o’r wythnos neu’n fwy aml yn gallu gwella iechyd pobl mewn nifer o ffyrdd?

Awgrymiadau i’ch Rhoi Ar Ben Ffordd

  • Ewch i weld y meddyg os oes unrhyw bryderon gennych am gyflwr eich iechyd.
  • Gwisgwch esgidiau cyfforddus.
  • Cerddwch gyda ffrind neu chwiliwch am eich grŵp Cerdded Er Lles Iechyd lleol.
  • Nodwch eich cynnydd: er enghraifft, sylwch faint yn haws yw dringo’r grisiau.
  • Ewch i gerdded mewn llefydd newydd.

Gallwch gynnwys cerdded yn eich bywyd bob dydd drwy:

  • Ddefnyddio’r grisiau yn lle’r lifft.
  • Cerdded y ci.
  • Mynd am dro dros ginio.
  • Cerdded gyda’r plant i’r ysgol ac adref.
  • Dod oddi ar y bws mewn arhosfan gynharach.
  • Cerdded i nôl y papur neu i bostio llythyr.
  • Parcio ymhellach i ffwrdd na’r lle rydych yn anelu mynd iddo.
  • Mynd am dro fel teulu i ymlacio a chymdeithasu.

Rhesymau Dros Ddechrau Cerdded

Er mwyn eich cyfoeth:

Mae cerdded yn rhad ac am ddim a gall arbed tocyn bws neu betrol i chi. Mae hefyd yn ffordd wych o gymdeithasu heb wario dim.

Er mwyn eich mwynhad:

Gallwch gerdded gyda ffrindiau neu ymuno â grŵp cerdded a darganfod cymaint o hwyl y gall cerdded fod!

Er mwyn eich hapusrwydd:

Mae cerdded yn gwella eich hwyliau, yn gallu helpu i wrthsefyll iselder a chynyddu eich hyder.

Er mwyn eich iechyd:

Mae cerdded yn cryfhau eich calon, eich esgyrn a’ch cyhyrau, tra hefyd yn helpu i leihau pwysedd gwaed uchel a gwella cylchrediad y galon a’r ysgyfaint.

Gall cerdded eich helpu i reoli’ch pwysau a chynorthwyo i atal a rheoli clefyd y siwgr.

Er mwyn eich cysuro:

Ewch am dro yn eich parc neu goedwig leol a darganfod sut y gall natur leihau straen, llonyddu’r meddwl, eich cynorthwyo i ymlacio a chysgu’n well.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd