Cynllunio digwyddiad mewn parc neu fan agored

Rydym yn gofalu am lawer o barciau a mannau agored yng Nghaerdydd. Mae’r rhain yn addas ar gyfer digwyddiadau o bob math a maint.

Os ydych yn ystyried trefnu digwyddiad yn un o’r lleoedd hyn, gallwch gael gwybodaeth am wneud hyn mewn ffordd ddiogel, addas a phleserus.

Darganfyddwch fwy am ein canllaw digwyddiadau A-Z.

Yr hyn y mae angen i ni ei wybod

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi ddweud wrthym am:

  • y digwyddiad,
  • y trefnydd,
  • adloniant a gweithgareddau trwyddedadwy
  • iechyd a diogelwch, a
  • chyfleusterau a seilwaith.

Gwneud cais i logi parc neu fan agored

Ffurflen Gais Llogi digwyddiadau mewn parciau neu fannau agored.

Er mwyn osgoi oedi, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau pob adran berthnasol o’r ffurflen. Os oes gwybodaeth ar goll ar ein cais, ni fyddwn yn gallu ei brosesu.

Nid yw cyflwyno ffurflen yn sicrhau eich defnydd o’r parc neu’r man agored. Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau hyn yn nes ymlaen. Os hoffech hysbysebu digwyddiad cyn i ni gysylltu â chi, mae hyn ar eich risg eich hun.

Gwneud cais ar gyfer llogi lle ym Mharc Bute

Dysgwch fwy am drefnu digwyddiad ym Mharc Bute.

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2087 2986

E-bost: digwyddiadauparciau@caerdydd.gov.uk

 

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd