Meinciau a Rhoddywd
Rydym yn derbyn meinciau a roddwyd ym mhob un o’n parciau. Mae’r cynllun yn rhoi mainc, plac a 1 thriniaeth o’r fainc i’r cwsmer am gyfnod o 10 mlynedd. Mae’r costau’n amrywio yn dibynnu ar arddull y fainc, deunydd plac ac a oes angen bae newydd. Fel canllaw, mae’r prisiau’n amrywio o tua £1,400 i £2,200.
Cofiwch fod Cyngor Caerdydd yn penderfynu ar leoliad ac arddull y fainc ymhob parc.
Nid ydym yn cymryd rhoddion sedd ar y safleoedd canlynol ar hyn o bryd:
- Llyn Parc y Rhath
- Gerddi Botanegol Parc y Rhath
- Gerddi Pleser y Rhath
- Alexandra Gardens
- City Hall Lawns
- Llys Insole
- Parc Mackenzie
- Y Wenallt
- Coed a Roddwyd
Ar hyn o bryd mae ein cynllun coed a roddwyd yn cael ei adolygu. Os hoffech gael eich rhoi ar restr aros, anfonwch e-bost atom a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd y cynllun yn ailgychwyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.