Gyda 10% o gyfanswm arwynebedd tir Caerdydd wedi’i orchuddio gan barciau a mannau gwyrdd, mae’r ddinas yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau addysgol unigryw.
Fel un o’r dinasoedd gwyrddaf yn y DU, mae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o dirweddau i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau. Mae’n gartref i lawer o’r canlynol:
- parciau y Faner Werdd,
- safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig,
- safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth natur,
- parciau gwledig (gan gynnwys Fferm y Fforest a Pharc Cefn Onn), a
- gwarchodfeydd natur lleol.
Mae cynllun Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r mannau gwyrdd gorau.





