Diolch am eich diddordeb i wirfoddoli gyda phrosiect Coed Caerdydd. Gyda chymorth cymunedau, ein nod yw cynyddu canopi coed Caerdydd o 18.9% i 25% fel rhan o Caerdydd Un Blaned.
Os hoffech gymryd rhan, ymunwch â’n rhestr bostio a’n cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am blannu coed a chyfleoedd gwirfoddoli eraill.
Anfonwch gais atom i ymuno â’n rhestr bostio: coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk
Hoffwch a dilynwch ein tudalen Facebook ac ymunwch â’n grŵp: @coedcaerdydd
Dilynwch ni ar Twitter: @coedcaerdydd
Cyfathrebiadau
Byddem wrth ein bodd pe gallai cymaint o bobl â phosibl gymryd rhan yn y prosiect.
Helpwch ni i hyrwyddo ein prosiect, ein digwyddiadau, ein ymgynghoriadau a’n cyfleoedd gwirfoddoli drwy rannu ein gwybodaeth drwy’r post a’r cyfryngau cymdeithasol gyda’ch rhwydweithiau.
Gwirfoddolwyr plannu coed
Bydd digwyddiadau plannu coed yn rhedeg o ddechrau’r hydref i’r gwanwyn. Gallwch gofrestru ar gyfer digwyddiadau unigol ar-lein a bydd cyfeirio i’n dolenni ar gael drwy ein rhestr bostio a’n cyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni ar draws nifer o ddigwyddiadau plannu, llenwch a chyflwynwch y ffurflen hon a’i chyflwyno (.doc)
Gwirfoddolwyr gwarcheidwaid coed
Mae gofalu am ein coed sydd newydd eu plannu yn hanfodol er mwyn gallu sicrhau twf cynaliadwy yn y canopi ledled Caerdydd.
Mae angen eich help arnom i gwblhau tasgau rheolaidd, megis dyfrio, chwynnu, ac adrodd am unrhyw ddifrod, a thasgau tymhorol, megis ail-stancio a thaenu gwellt.
Gofynnwn a allech ymweld â’r coed dan eich gofal bob wythnos neu bob pythefnos a rhoi gwybod i ni am eu cyflwr. Gellid integreiddio hyn i’ch teithiau cerdded arferol o amgylch eich ardal a byddai’r amser sydd ei angen yn amrywio yn dibynnu ar faint o goed rydych am ofalu amdanynt, a thasgau sydd eu hangen yn ystod yr ymweliad hwnnw (h.y. byddai dyfrio yn cymryd mwy o amser nag ychydig o luniau diweddaru).
Ar ôl i ni gadarnhau eich manylion, byddwn yn dyrannu safle/safleoedd i chi yn seiliedig ar eich ardal.
Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant byr ar-lein i gwmpasu’r tasgau sydd eu hangen ar gyfer eich rôl wirfoddol a sut i reoli unrhyw risgiau os yn gweithio ar safleoedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn “Warcheidwad Coed”, llenwch y ffurflen hon a’i chyflwyno (.doc)
Gwirfoddolwyr planhigfa goed
Mae gofalu am ein stoc coed gydol y flwyddyn yn ein planhigfa goed yn Fferm y Fforest yn hanfodol er mwyn gallu plannu coed iach ledled Caerdydd.
Mae angen eich help arnom i gwblhau tasgau rheolaidd, megis dyfrio a chwynnu, a thasgau tymhorol, megis codi a bwndelu stoc, a chasglu hadau ar gyfer lluosogi.
Dros y tymor hwy, gobeithiwn luosogi stoc coed o dras leol drwy gasglu hadau’n flynyddol a’u tyfu ymlaen. Bydd hyn yn helpu i atal rhagor o glefydau a phlâu coed rhag lledaenu a bydd yn creu gwydnwch yn ein coed yn y dyfodol.
Byddem yn gofyn i chi roi hyd at ddwy awr o’ch amser yr wythnos ac rydym yn cynnig sesiynau bob yn ail Ddydd Mercher a Dydd Sadwrn. Fel arfer bydd y sesiynau rhwng 10am a 12pm yn Fferm y Fforest.
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau eich manylion, byddwn yn rhoi gwybod i chi am sesiynau planhigfa goed sydd ar y gweill.
Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen hon a’i chyflwyno (.doc)
Mapio Rhestr Coed Hynafol
Rydym yn gweithio gyda Choed Cadw i hyrwyddo eu Rhestr o Goed Hynafol.
Maent yn gofyn am wirfoddolwyr er mwyn helpu i fapio coed hynafol, aeddfed iawn a nodedig Caerdydd a’u hychwanegu at eu cronfa ddata. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu rhai o’n coed mwyaf gwerthfawr sydd wedi bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd.
Os oes gennych ddiddordeb, ewch i wefan Coed Cadw i gael gwybod mwy a chymryd rhan: Rhestr Coed Hynafol – Coed Cadw
Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i fapio coed hynafol, aeddfed iawn a rhai nodedig posibl. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: coedcaerdyddproject@cardiff.gov.uk