Ysgol Farchogaeth Caerdydd
A ninnau mewn 35 o barcdiroedd yng nghanol Caerdydd, rydym yn cynnig profiad marchogaeth cyflawn ar gyfer pob gallu, clwb merlod, marchogaeth ar gyfer yr anabl a llawer mwy.
Cyfleusterau
- Ysgolion dan do ac awyr agored
- Oriel wylio gyda seddau yn yr ysgol dan do
- Stablau ar gyfer 47 o geffylau
- Cwrs traws-gwlad sylfaenol
- Cwrs rhwystrau sioe llawn
- Opsiynau marchogaeth yn yr awyr agored
- Toiledau Menywod/Dynion a Thoiled i’r Anabl gyda chawod
- Maes parcio mawr
- Staff ar y safle 24 awr y dydd
Beth sydd ar gael?
- Cynigir pob agwedd ar farchogaeth a gofalu am geffyllau p’un ai a ydych yn farchog newydd neu profiadol.
- Mae ein holl staff yn ddeiliaid cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain
- Rydym yn ganolfan a gymeradwyir ar gyfer y Clwb Marchogaeth a’r Clwb Merlod.
- Rydym yn ganolfan a gymeradwyir gan Gymdeithas Marchogaeth ar gyfer yr Anabl.
- Rydym yn cynnig ‘reidiau ar ferlod’ ar y penwythnos rhwng 10am a 12.30pm ar gyfer plant 3 i 13 oed, am £7.60 Mae’r sesiynau hyn yn berffaith ar gyfer y sawl sy’n mentro arni am y tro cyntaf ac o ran meithrin diddordeb. Reidiau am tua 15 munud o hyd ar y llinyn ffrwyn arweiniol yw’r rhain a gynhelir yn yr awyr agored ar bob tywydd (felly gwisgwch ddilllad addas).
- Ffoniwch ni i holi am ein dewisiadau Parti Pen-blwydd a Chadw Ceffylau.
- Mae gennym derfyn pwysau o 12 stôn neu 76kg. (Wedi’ch gwisgo i reidio)
Archebu
- Rhaid talu wrth archebu un ai dros y ffôn neu mewn person.
- Mae gennym gyfnod canslo o 48 awr. Os ydych yn rhoi gwybod eich bod am canslo lai na 48 awr ymlaen llaw ni chynigir ad-daliad.
- Mae talebau rhagdaledig ar gael (anrhegion perffaith!).
Reidiau ar Ferlod
Dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 12.30pm
£7.60 Plant rhwng 3 blwydd oed a 13 mlwydd oed
Rhaid trefnu o flaen llaw
Mae’r reidiau bob amser yn yr awyr agored felly gwisgwch ar gyfer y tywydd.
Gwersi Preifat
£32.65 am 30 munud a £45.65 am 60 munud.
Rhwng 9.00am a 5:00pm – dydd Mawrth i ddydd Gwener.
Lleoedd cyfyngedig ar gael ar benwythnosau.
Partïon pen-blwydd plant
Yn ysgol farchogaeth Caerdydd gallwn gynnig profiad parti Merlod hyfryd i’ch plant.
Gellir archebu partïon ar gyfer dydd Sadwrn neu ddydd Sul i blant 6+ oed. Cânt eu cynnal rhwng 12.30 pm a 3.00 pm. (Cynghorwn gyrraedd yn gynnar er mwyn caniatáu amser i ffitio hetiau ac esgidiau.)
Mae ein partïon Merlod yn cael eu prisio ar £250 ar gyfer 10 o blant. Caiff pob parti ei oruchwylio gan ein staff hyfforddedig. Nid oes angen unrhyw brofiad marchogaeth.
Mae profiad y Parti Merlod yn dechrau gyda chwrdd â’n merlod hyfryd a helpu i’w cael yn barod i’w marchogaeth. Mae pob grŵp o blant yn reidio am hanner awr. Bydd y plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â merlod er mwyn rhoi’r profiad parti cyflawn.
Bydd ein stabl parti arbennig ar gael i chi gael bwyd. Rhaid i’r teulu ddarparu hwn gan nad oes gennym drwydded fwyd.
Gofynnwch i’r plant wisgo trowsusau stretslyd a dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd. Rhaid i esgidiau fod yn bŵt neu esgid â gwadn fflat a sawdl bach. Dim sipiau ar y tu mewn.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich parti, ffoniwch 029 2038 3908 i siarad â’n derbynnydd.
- Dylai cleientiaid gyrraedd 20 munud cyn amser y wers a rhoi gwybod eu bod wedi cyrraedd i’r dderbynfa. (Mae hyn er mwyn rhoi ystyriaeth i draffig trwm ar yr adegau prysuraf oherwydd mae’n bosib na allwn ddarparu ar gyfer hwyrddyfodiaid ac ni fyddem yn cynnig ad-daliad).
- Dim ond hetiau marchogaeth sy’n bodloni safonau diogelwch Cymdeithas Ceffylau Prydain gaiff eu gwisgo. Gallwch logi’r rhain yn ein derbynfa.
- Rhaid gwisgo esgidiau priodol, sef esgidiau gyda gwadn briodol a sawdl fach. Ni ddylai fod unrhyw fyclau na sipiau ar ochr fewnol yr esgidiau. Mae gennym fŵts y gallwch eu benthyca.
- Rhaid talu am bob gwers wrth ei harchebu.
- Mae staff bob amser wrth law i gynnig cymorth.
- Fe’ch cynghorir i beidio â gwisgo esgidiau meddal neu agored ar ein iard ar bob adeg.
Llinyn Ffrwyn Tywys i farchogion 4 a 5 mlwydd oed.
Dydd Sul ar Linyn Ffrwyn Tywys: 10.45am a 11.15am gyda Rhiant/Gwarcheidwad yn tywys. A wnewch chi wisgo esgidiau cadarn wrth dywys.
Marchogion Gradd 1 6 blwydd oed a hŷn.
Gwers 30 munud £15.25 yn ystod yr wythnos a £16.85 ar benwythnosau
Dydd Mawrth: 5.00pm
Dydd Mercher: 5.00pm
Dydd Iau: 5.00pm
Dydd Gwener: 6.00pm
Dydd Sadwrn: 9.30am a 3.00pm
Dydd Sul: 9.30am a 2.30pm
Caiff y merlod a’r ceffylau eu cyfrwyo a’u harneisio gan staff. Caiff marchogion Gradd 1 ofyn am gymorth gan staff i dywys merlod i’r yr ysgol dan do.
Gradd 1+
Gwers 30 munud £15.25 yn ystod yr wythnos a £16.85 ar benwythnosau
Dydd Mawrth: 5.30pm a 6.30pm
Dydd Mercher: 6.30pm
Dydd Iau: 6.00pm
Dydd Gwener: 5.00pm a 7.00pm
Dydd Sadwrn: 10.45am a 2.00pm
Dydd Sul: 10.00am a 3.00pm
Caiff y merlod a’r ceffylau eu cyfrwyo a’u harneisio gan staff. Caiff marchogion Gradd 1+ ofyn am gymorth gan staff i dywys merlod i’r yr ysgol dan do.
Gradd 2
Gwers 30 munud £15.25 yn ystod yr wythnos a £16.85 ar benwythnosau
Dydd Mawrth: 6.00pm a 7.00pm
Dydd Mercher: 5.00pm, 6.00pm a 7.00pm
Dydd Iau: 5.30pm a 6.30pm
Dydd Gwener: 5.30pm a 6.30pm
Dydd Sadwrn: 10.00am, 11.15am a 2.30pm
Dydd Sul: 12.00pm a 2.00pm a 3.30pm
Caiff y merlod a’r ceffylau eu cyfrwyo a’u harneisio gan staff. Caiff marchogion Gradd 2 ofyn am gymorth gan staff i dywys merlod yn yr ysgol dan do.
Gradd 2+
Gwers 60 munud £24.45 yn ystod yr wythnos a £25.55 ar benwythnosau
Dydd Mawrth: 5.00pm
Dydd Mercher: 5.00pm
Dydd Iau: 6.00pm
Dydd Gwener: 7.00pm
Dydd Sadwrn: 3.00pm
Dydd Sul: 9:30am
Caiff y merlod a’r ceffylau eu cyfrwyo a’u harneisio gan staff. Caiff marchogion Gradd 2+ ofyn am gymorth gan staff i dywys merlod yn yr ysgol dan do.
Gradd 3
Gwers 60 munud £24.45 yn ystod yr wythnos a £25.55 ar benwythnosau
Dydd Mawrth: 6.00pm
Dydd Mercher: 6.00pm
Dydd Iau: 5:00pm
Dydd Gwener: 6.00pm
Dydd Sadwrn: 10.45am
Dydd Sul: 10.45am a 2.00pm
Caiff y merlod a’r ceffylau eu cyfrwyo a’u harneisio gan y staff oni bai bod y marchogwr yn hapus i wneud hynny. Disgwylir i farchogion dywys y ceffylau i’r ysgol dan do. Gofynnir i farchogion ddad-gyfrwyo a dad-harneisio a rhoi carthen ar ceffylau os bydd angen.
Gradd 3+
Gwers 60 munud £24.45 yn ystod yr wythnos a £25.55 ar benwythnosau
Dydd Iau: 7.00pm
Dydd Sadwrn: 9.30am a 2.00pm
Dydd Sul: 12.00pm
Disgwylir i farchogion Gradd 3+ gyfrwyo a harneisio eu ceffylau eu hunain a dad-gyfrwyo a dad-harneisio a rhoi carthen arnynt os bydd angen
Gradd 4
Gwers 30 munud £24.45 yn ystod yr wythnos a £25.55 ar benwythnosau
Dydd Mawrth: 7:00pm (Flat yn unig)
Dydd Mercher: 7.00pm
Disgwylir i farchogion Gradd 4 gyfrwyo a harneisio eu ceffylau eu hunain a dad-gyfrwyo a dad-harneisio a rhoi carthen arnynt os bydd angen.
Ymweld â ni
Rydym ar gau ar ddydd Llun
Dydd Iau – dydd Gwener 9am tan 8pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul 9am – 4:30pm
Cynhelir gwersi preifat fel arfer yr ystod y dydd yn ystod yr wythnos waith gyda rhywfaint o gyfleoedd ar benwythnosau.
Cynhelir gwersi grŵp gan fwyaf gyda’r nos yn ystod yr wythnos waith ac yn ystod y dydd ar benwythnosau.
Hafan | Ysgol Farchogaeth Caerdydd