Grwpiau Cyfeillion

Helpwch ni i ofalu am eich parc lleol

Os hoffech wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau cadwraeth â’r tîm Ceidwaid Parciau, cysylltwch â ni a byddwn yn anfon y wybodaeth ddiweddaraf atoch am ein rhaglen yn rheolaidd.

Ymunwch â Grŵp Cyfeillion parc lleol

Mae grwpiau cyfeillion yn cefnogi eu mannau gwyrdd lleol drwy ystod o weithgareddau ymarferol a gweinyddol gan gynnwys:

  • plannu
  • gwaith clirio
  • gwelliannau mynediad
  • ymchwil hanesyddol
  • codi arian a chyhoeddusrwydd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Grwpiau Cyfeillion unigol ar eu gwefannau. Does gan rai eu gwefannau eu hunain felly cysylltwch â ni am fanylion.

Mae grwpiau ar y safleoedd canlynol:

Fforwm Cyfeillion Caerdydd

Gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, mae’r fforwm yn cynorthwyo’r holl Grwpiau Cyfeillion gyda rhaglen reolaidd o weithgareddau lle gall Cyfeillion o grwpiau gwahanol gwrdd a rhannu eu profiadau.

Sefydlwyd y Fforwm yn 2006 ac mae’n cynorthwyo â gweithgareddau’r Grwpiau Cyfeillion drwy gynnig gwybodaeth am:

  • ariannu
  • cyhoeddusrwydd
  • iechyd a diogelwch
  • ceisio am grantiau
  • materion cyffredinol yn ymwneud â mannau gwyrdd

Ymhlith y gweithgareddau a drefnir gan y Fforwm mae’r barbyciw haf poblogaidd yn Fferm y Fforest a chyfarfodydd rheolaidd i drafod materion sydd o bwys i bawb.

O ganlyniad i’r Fforwm, gall Grwpiau Cyfeillion gyfrannu at gynnal digwyddiadau amgylcheddol fel gŵyl flynyddol Allan o’r Coed ym Mharc Bute ac Wythnos Fioamrywiaeth Caerdydd ym mis Mehefin, yn ogystal â sicrhau bod eu gweithgareddau a’u digwyddiadau eu hunain yn cael eu hysbysebu i ystod eang o bobl â diddordeb.

Cysylltu â ni

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd