Torri Gwair

Mae’r tymor torri gwair rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Gall y tywydd a chyflwr y tir effeithio ar yr union adeg y byddwn yn torri’r gwair. Nid oes gennym yr adnoddau i gael gwared ar doriadau gwair.

Mae’r rhan fwyaf o barciau a mannau gwyrdd yn cael eu torri hyd at 8 gwaith y flwyddyn, ond ni allwn roi union fanylion pryd yr ymwelir â nhw. Bydd rhai yn cael blaenoriaeth dros eraill. Er enghraifft, bydd meysydd chwaraeon yn cael blaenoriaeth a gellir eu torri’n amlach.

Ymylon ar brif ffyrdd

Os yw’r terfyn cyflymder ar ffordd yn fwy na 30 milltir yr awr, nid yw ein hadran parciau yn gyfrifol am dorri’r gwair. Ymhlith y swyddi hyn mae:

  • A470 (Gelli’r Ynn a Ffordd y Faenor)
  • Cyfnewidfa Coryton (cyffordd 32)
  • A4232 (cyffordd yr A48 i gyffordd 33 yr M4)

Ardaloedd gwair cymunedol o amgylch eiddo’r cyngor

Mae’r tymor torri gwair rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Gall y tywydd a chyflwr y tir effeithio ar yr union adeg y byddwn yn torri’r gwair.

Os yw cŵn wedi baeddu’r ardal, ni fydd adran y parciau yn gallu torri’r gwair.

Rhowch wybod i ni ynghylch baw cŵn.

Insects amongst grass

Iddyn Nhw, Yn newid y drefn torri glaswellt er lles natur

Rydym yn chwilio am gyfleoedd i amrywio pa mor aml a phryd mae gwair yn cael ei dorri i greu cymysgedd o laswellt byr a hir ar safleoedd. Bydd hyn yn helpu i greu ystod ehangach o gynefinoedd, cefnogi ystod ehangach o blanhigion ac anifeiliaid, a chynyddu bioamrywiaeth.

Rydym wedi mabwysiadu cynllun un toriad sy’n golygu y bydd ardaloedd priodol ond yn cael eu torri unwaith y flwyddyn i helpu’r amgylchedd. Mae’r ardal hon yn cyfateb i 215 o gaeau pêl-droed.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd, mae gennym ddyletswydd i gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau.

Mae’n bosibl gweld pa safleoedd sy’n rhan o’r cynllun un toriad.

Lawrlwythwch y daflen ffeithiau Mae iddyn nhw (PDF)

Little insects

Mae glaswellt hir yn well i fyd natur na glaswellt sy’n cael ei dorri’n fyr yn gyson. Mae’n bywyd gwyllt yn prinhau a rhaid gweithredu nawr i’w achub. Mae 1 o bob 6 rhywogaeth sydd wedi’i hasesu yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu yma. Mae hi’n argyfwng natur arnon ni.

Mae glaswellt a blodau gwyllt yn rhoi bwyd i bryfed a chysgod iddyn nhw gynnal eu cylch bywyd. Mae torri’r glaswellt yn llai aml yn rhoi cyfle i flodau gwyllt dyfu. Mae pryfed yn peillio’r blodau i gynhyrchu hadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r hadau’n cael eu bwyta gan adar mân fel pincod. Mae mamaliaid fel ystlumod, llygod y maes a draenogod yn bwyta’r planhigion ac infertebratau fel mwydod, chwilod a phryfed eraill. Mae’r cudyll, y boda (bwncath) a’r dylluan wen yn hela mamaliaid bach ac mae’r wennol a’r wennol ddu yn bwyta’r pryfed. Mae amffibiaid ac ymlusgiaid fel brogaod a llyffantod, nadroedd defaid a madfallod hefyd yn bwyta infertebratau.

Gall dôl naturiol fod yn gartref i fwy na 1,400 o wahanol fathau o infertebratau a llawer o blanhigion ac anifeiliaid eraill.

Pryfed sy’n peillio llawer o’r cnydau amaethyddol sy’n fwyd i ni. Y nhw hefyd sy’n peillio’r planhigion gwyllt sy’n cynhyrchu’r hadau, y ffrwythau a’r cnau sy’n fwyd i adar a mamaliaid. Mae pryfed yn angenrheidiol i gynhyrchu bwyd. Mae llawer o’r pryfed peillio hyn yn prinhau, yn bennaf am fod eu cynefin yn diflannu. Mae pryfed peillio angen blodau i’w bwyta, llefydd i fyw a dodwy wyau ynddyn nhw, a chysgod i’w larfâu ddatblygu. Mae gwenyn mêl hefyd yn beillwyr. Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf yn cael eu ffermio a dydyn nhw ddim yn prinhau.

Mae cael mynd i ganol natur yn rhoi hwb mawr i’n hiechyd a’n lles meddyliol, gan ganolbwyntio’r meddwl a gwneud i ni deimlo’n dawelach a hapusach. Trwy greu mwy o ddolydd, cawn fwy o gyfleoedd i brofi natur.

Mae rhyw harddwch anffurfiol i dir lle mae’r glaswellt yn cael tyfu’n hir. Ar ôl blodeuo, mae’r dolydd hyn yn gallu edrych yn anniben a blêr wrth i’r planhigion ddefnyddio’u hegni i hadu i gynhyrchu blodau’r flwyddyn nesaf. Maen nhw’n dal i fod yn hynod bwysig i bryfed peillio, pryfed eraill, adar a mamaliaid fel y draenog.

I chi gael dysgu enwau’r blodau gwyllt allai dyfu ar laswelltir yn y gwanwyn a’r haf, mae ‘Natur Wyllt’ wedi paratoi canllaw i rai o’r blodau gwyllt pwysicaf i bryfed peillio.

A hedgehog

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd