Beth yw Coed Caerdydd?

Coed Caerdydd

Mae coed yn hanfodol i iechyd ein dinas a’n planed

Mae Coed Caerdydd yn rhaglen 10 mlynedd i gynyddu nifer y coed yng Nghaerdydd, gan gefnogi strategaeth newid yn yr hinsawdd Un Blaned y ddinas.

Nodau’r project yw i:

  • Ddiogelu ein coed presennol a rhai newydd yn erbyn effeithiau’r hinsawdd a chlefydau
  • Plannu coed newydd yn y mannau cywir ar gyfer natur a chymunedau
  • Codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd coed
  • Darparu cyfleoedd i bawb helpu i wneud Caerdydd yn lle gwyrddach ac iachach i fyw ynddo.
  • Hyfforddi a gweithio gyda chymunedau
Tree planting logo

Rydym am sicrhau bod y coed rydym yn eu plannu yn goroesi i’r dyfodol fel bod eu heffaith yn cael ei gynnal ac rydym am weld plannu coed yn digwydd ym mhob rhan o’r ddinas gydol y degawd nesaf.

Mae clefydau coed yn lledu a bydd rhan o raglen Coed Caerdydd yn cynnwys sicrhau ein bod yn plannu amrywiaeth o fathau coed i leihau effaith unrhyw golledion yn y dyfodol.

Rydym yn nodi tir a allai fod yn addas ar gyfer plannu coed yn ystod y tymor plannu, sy’n rhedeg o fis Tachwedd i fis Mawrth. Byddwn yn gweithio gyda thirfeddianwyr, gwirfoddolwyr, sefydliadau cymunedol a chyllidwyr.

Drwy weithio gyda chymunedau i blannu coed newydd a gofalu am goetiroedd sy’n bodoli eisoes, rydym am gynyddu’r gorchudd ar draws y ddinas o 18.9% i 25%.

Coed yng Nghaerdydd

Bob blwyddyn, mae coed Caerdydd yn cael gwared ar tua 10.5% o’r holl lygryddion sy’n cael eu gollwng gan draffig Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys 7,900 tunnell o garbon sydd yr un fath ag allyriadau blynyddol 14,000 o geir.

Maent hefyd yn cynnig amgylchedd deniadol a gwyrdd ledled ein dinas sy’n yn cefnogi bywyd gwyllt a chymunedau iachach. Mae coed derw yn unig yn cefnogi 2,300 o rywogaethau.

Mae’r coed hefyd yn cymryd 356 miliwn litr o law bob blwyddyn, mae hyn yn helpu i leihau costau trin dŵr a’r perygl o lifogydd.

Cymerwch Ran

Os hoffech wybod mwy am Goed Caerdydd neu os hoffech gymryd rhan mewn plannu coed, gofal, awgrymu safleoedd, neu hyrwyddo’r prosiect gallwch ymuno â’n grŵp facebook a Eventbrite neu e-bostiwch coedcaerdyddprosiect@caerdydd.gov.uk.

Kitchener Gardens tree planting

Gweler hefyd:

Beth yw Coed Caerdydd? | Enwebu safleoedd, gofyn a chyfrannu coed | Cyfleoedd gwirfoddoli

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd