Llwybr Arfordir Cymru (Caerdydd)

Rhan Caerdydd o Llwybr Arfordir Cymru

Mae rhan Caerdydd o Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn dros 15.60km ac yn ffurfio cyswllt â Chasnewydd i’r dwyrain a Bro Morgannwg (trwy Benarth) i’r gorllewin, yn rhan o ranbarth Aber Afon Hafren ac Arfordir De Cymru (rhanbarth 8).

Mae’r llwybr o Gasnewydd yn y dwyrain yn parhau ar hyd wal y môr, gyda golygfeydd gwych o Aber Afon Hafren a chyfleoedd da i wylio adar, gyda morfeydd heli a gwastadeddau llaid sy’n denu adar dŵr. Mae hefyd yn cysylltu â Bae Caerdydd a chyfres o gamlesi ac yn parhau i Benarth ar hyd y Morglawdd. Mae gan Fae Caerdydd ddigon i’w fwynhau, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm â’r Ganolfan Croeso, yr Eglwys Norwyaidd enwog (lle cafodd Roald Dahl ei fedyddio), tafarnau, bwytai a chaffis, sy’n cynnig golygfeydd ar draws y llyn dŵr croyw. Mae gan y Morglawdd lwybrau wedi’u gwahanu i gerddwyr a beicwyr ac mae digon i’w weld ar hyd y ffordd o’r parc sglefrio a’r gampfa awyr agored, arddangosfa awyr agored y Capten Scott a’r Morglawdd ei hun gyda’i bontydd gwrthbwys sy’n cysylltu’r llyn â’r môr.

Newyddion:

  • Mae’r llwybr rhwng Rover Way (wrth y gyffordd â Ffordd Lamby) ac Ocean Way wedi’i wyro dros dro i mewn i’r tir o ganlyniad i resymau diogelwch. Mae gwaith yn cael ei gynllunio i wella’r forlin a glanhau’r ardaloedd o gwmpas Rover Way i greu lle mwy croesawgar ac addas i gerddwyr ei fwynhau.
  • Mae Swyddogion Cyngor Caerdydd wrthi’n gweithio ar gynllunio a dyluniadau i ail-alinio’r llwybr o Gors Crychydd i Safle Tirlenwi Ffordd Lamby ac o gwmpas. Gan nad yw’r safle yn cael ei ddefnyddio at ddibenion tirlenwi mwyach, mae cyfle i ail-alinio’r llwybr yn nes at y forlin. Gan fod y safle yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer ailgylchu a gwastraff bwyd, cynhyrchion cynaliadwy fydd yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir i gyfeirbwyntio a chreu’r llwybr a bydd yna wybodaeth am fioamrywiaeth a phwysigrwydd diogelu ein morliniau.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Llwybr Arfordir Cymru – Ei hanes

Ym mis Mehefin 2006, cyhoeddodd Rhodri Morgan fod Llywodraeth Cymru am greu Llwybr Arfordir Cymru gyfan i gysylltu gogledd a de-ddwyrain Cymru. Y bwriad oedd cysylltu, gwella a chreu llwybrau mor agos at yr arfordir â phosibl i gymunedau lleol a phobl sy’n ymweld â Chymru. Cafodd ei ariannu trwy raglen grant Llywodraeth Cymru a reolwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru ynghynt) mewn partneriaeth ag 16 awdurdod lleol a 2 barc cenedlaethol.

Gan ymestyn dros 1,200km/870 milltir ac wedi’i grwpio yn 8 rhanbarth, mae Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn cysylltu â Chlawdd Offa wrth ben y gogledd a’r de. Er ei fod i gerddwyr yn bennaf, mae rhannau o’r llwybr i feicwyr, defnyddwyr cadair olwyn a phobl y mae cyfyngiad ar eu symudedd, teuluoedd â phramiau a marchogion.

Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru yn swyddogol ar 5 Mai 2012 a chynhaliodd Caerdydd un o’r 3 digwyddiad agor swyddogol. Cymru yw’r wlad gyntaf i gael llwybr arfordir a gysylltir yn llawn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru

Pethau i’w gwneud

wales-coast-path-badgeCewch ddysgu am hanes y llwybr a gweld pwy fu’n rhan o’r gwaith o’i greu. Dysgwch faint yn union o’r Llwybr sy’n mynd ar draws neu’n agos at rai o dirweddau a chynefinoedd gwarchodedig Cymru. Darllenwch am anturiaethau’r unigolion prin hynny sy’n ceisio cerdded o un pen i’r llall. A chewch weld gyda’ch llygaid eich hun beth yw apêl Llwybr Arfordir Cymru trwy ymweld â’r oriel luniau a fideos.

Gwefan Llwybr Arfordir Cymru

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd