Caiff parciau Caerdydd eu defnyddio gan lawer o grwpiau gwahanol o bobl. Er mwyn helpu i wneud ein parciau yn ddiogel ac yn fannau hamdden y gall pawb eu mwynhau, dilynwch y Cod Ymddygiad. Dim ond ar lwybrau ag arwyddion ‘defnydd a rennir’ y caniateir beicio mewn parciau. Cymerwch olwg ar Fap Cerdded a Beicio Caerdydd i ddod o hyd i lwybrau i’w mwynhau ar feic.

Bwddwch yn ystyriol ac yn gwrtais i eraill bob amser

Rhowch sbwriel yn y bin neu ewch ag ef adref gyda chi

Cadwch i’r chwith. A phasiwch ar y dde

Byddwch yn barod i arafu. Stopio ac ildio i gerddwyr os bydd angen

Cael eich gweld a’ch clywed canwch eich cloch ond cofiwch na fydd pawb o reidrwydd yn eich gweld neu’n eich clywed

Cadwch eich cwn dan reolaeth

Cliriwch ar ol eich ci a rhowch ei faw yn y bin gwastraff