Mae dros 2,000 o geffylau wedi eu cofrestru yng Nghaerdydd ac mae’r rhwydwaith llwybrau ceffylau yn llai na 2km o hyd felly rydym yn dibynnu yn helaeth ar lwybrau ceffylau goddefol i gysylltu â’r llwybrau tramwy sy’n bodoli. Mae’r Tîm Llwybrau Tramwy Cyhoeddus yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r Fforwm Mynediad Lleol, tirfeddianwyr a datblygiadau’r dyfodol i greu mwy o lwybrau i farchogion.
Cymdeithas Geffylau Prydain
Cymdeithas Geffylau Prydain yw’r mwyaf yn y DU a’r elusen geffylau fwyaf dylanwadol.
S.A.F.E. (Save a Forgotten Equine)
I achub, adfer ac ailhyfforddi ceffylau sy’n wynebu cael eu hesgeuluso neu gamdriniaeth a rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw gael cartref parhaol a bywyd diogel.