Tyfu eich llysiau eich hunainow
Mae tyfu bwyd yn lleol yn un ffordd y gallwn ni i gyd helpu i leihau ein hôl troed carbon – does dim gwell na blasu cynnyrch ffres, yn enwedig os ydych chi wedi’i dyfu eich hun! Mae cadw rhandir yn ffordd wych o gadw’n heini, mwynhau’r awyr iach, gwneud ffrindiau a thyfu eich hoff ffrwythau a llysiau eich hun. Os oes gennych chi le gallwch chi hyd yn oed dyfu blodau i’w torri!
Mae garddio rhandir yn dod yn fwy poblogaidd ac mae’r galw am leiniau rhandir yng Nghaerdydd yn saethu i fyny.
Mae llawer o randiroedd Caerdydd wedi elwa ar fwy o fuddsoddiad dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddarparu ffyrdd mynediad gwell, cyflenwadau dŵr newydd, ffensys diogelwch a chyfleusterau toiled sy’n compostio.
Os ydych yn byw yng Nghaerdydd ac yn dymuno garddio rhandir, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn gwneud cais am lain.
Os nad ydych chi wedi garddio rhandir o’r blaen neu os hoffech wybodaeth am arddio rhandir, rydym wedi paratoi canllaw defnyddiol (2.7Mb PDF) sy’n rhoi crynodeb i chi o’r rheolau yn y cytundeb tenantiaeth ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer plannu ac ar gyfer rheoli eich llain. Sylwer bod y canllaw hwn yn cael ei ddiweddaru ac y bydd y fersiwn newydd ar gael ym mis Mawrth.