Llwybrau Cyfeiriannu

Mae cyfeiriannu yn weithgaredd awyr agored hwyliog sy’n gofyn i chi lywio drwy ddefnyddio map a chwmpawd. Golyga hyn ddarllen map, dewis llwybr a cheisio ymweld â phob pwynt ar y map yn yr amser cyflyma neu er mwynhad yn unig. Mae hwn yn weithgaredd y gall unrhyw un ei wneud, waeth beth yw ei oedran neu brofiad.

Gallwch fod yn gystadleuol neu ymlacio fel y mynnwch, y syniad yw mwynhau wrth ddarganfod yr awyr agored mewn modd nad oeddech yn credu oedd yn bosibl.

Gall cyfeiriannu amrywio o lwybrau a gemau syml i gystadlaethau ar lefel clwb. Carai Awyr Agored Caerdydd gynorthwyo i hyrwyddo’r holl weithgareddau a’r cysylltiadau yn ardal Caerdydd er mwyn annog eraill i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwahanol fel rhan o batrwm byw’n iach.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd