Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn rhoi i’r prosiect
Diffiniadau
Cyfrannu: Rhodd ariannol i Gyngor Caerdydd (yn yr achos hwn at ddibenion cyfrannu tuag at blannu coed).
Rhoddwr: yr unigolyn sy’n gwneud rhodd ariannol i coed Caerdydd.
TAW: Treth Ar Werth
Ni: Coed Caerdydd a/neu Gyngor Caerdydd
Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni
Mae Coed Caerdydd yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’i Gyfarwyddiaeth Parciau a Hamdden.
Cyfeiriad:
Parc Gwledig Fferm y Fforest,
Heol Fferm y Fforest,
Yr Eglwys Newydd,
Caerdydd,
CF14 7JH.
E-bost: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk
Gwefan: www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/
Cyffredinol
Os ystyrir bod unrhyw ddarpariaethau o’r telerau ac amodau hyn yn annilys neu’n anorfodadwy, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd y darpariaethau sy’n weddill.
Mae’r telerau a’r amodau hyn yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a Chyngor Caerdydd ac maent yn disodli’r holl gyfathrebiadau a chynigion eraill, boed yn electronig neu’n ysgrifenedig, rhwng defnyddiwr y wefan a Chyngor Caerdydd.
Ni ystyrir bod unrhyw fethiant gan Gyngor Caerdydd i arfer neu orfodi unrhyw un o’i hawliau o dan y telerau ac amodau hyn yn hepgor unrhyw hawliau o’r fath.
Awdurdodaeth
Mae’r telerau ac amodau a defnydd y defnyddiwr o’r wefan yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau sy’n gysylltiedig â’r wefan, unrhyw drafodion a wneir drwy’r wefan a/neu’r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Drwy gyfrannu at Coed Caerdydd rydych chi’n derbyn y telerau hyn
Trwy roi rhoddion ariannol rydych chi’n cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.
Mae telerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi
Bydd y telerau ychwanegol hyn hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’r wefan:
Gallwn wneud newidiadau i’r telerau hyn
Rydym yn diwygio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bob tro yr hoffech wneud rhoddion, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol bryd hynny.
Gallwn wneud newidiadau i’r wefan
Gallwn ddiweddaru a newid y wefan o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau i’n prosiect.
Dibynnu ar wybodaeth ar y wefan
Darperir y cynnwys ar y wefan er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddi fod yn gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno.
Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y wefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau bod y cynnwys ar y wefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.
Gwneud rhodd
Drwy wneud rhodd, rydych chi’n cytuno i wneud rhodd ariannol i Gyngor Caerdydd at y diben(ion) a nodir ar y wefan o dan y Prosiect Coed Caerdydd rydych chi’n cyfrannu ato.
Bydd 100% o’ch rhodd yn mynd tuag at fentrau lleol. Ni fydd yr holl arian a roddir drwy Ardal CWB yn arwain at unrhyw gost weinyddol.
Gweler y wefan am ragor o fanylion am roi a’r hyn y bydd eich cyfraniad yn cael ei wario arno.
Dim ond deiliad/deiliaid y cyfrif y gwneir y cyfraniad ohono neu rywun sydd â chaniatâd deiliad/deiliaid y cyfrif y gwneir y cyfraniad ohono all wneud rhoddion.
Trethiant
Nid yw rhoddion yn ddarostyngedig i Dreth ar Werth (TAW).
Rhodd Cymorth
Nid yw Cyngor Caerdydd yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Felly, ni fydd unrhyw gyfraniadau yn destun Rhodd Cymorth
Eich Gwybodaeth Bersonol
Mae’r holl ddata personol a gedwir gennym ni neu ar ein rhan yn cael ei gadw yn unol â Pholisi Preifatrwydd Cyngor Caerdydd.
Ad-daliadau
Os byddwch yn gwneud rhodd, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn o’r arian o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y gwnaed eich rhodd. Os oes angen ad-daliad arnoch, anfonwch e-bost at prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk a rhoi cyfeirnod eich rhodd, a fydd wedi’i gynnwys ar eich derbynneb electronig.
Gwrthod Rhoddion
Rydym yn cadw’r hawl i wrthod rhoddion a wneir sydd:
- yn anghyfreithlon (e.e. rhoddion a wneir gan ddefnyddio enillion troseddau) neu ddim yn unol â pholisïau Cyngor Caerdydd
- wedi’u gwneud gan rywun nad oedd ganddo, ar adeg y rhodd, y galluedd meddyliol i wneud rhodd o’r fath
- ddim yn unol â nodau a dibenion y project, sydd i’w gweld ar y wefan
Cyfyngiad ar atebolrwydd
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol (hyd yn oed os gellir ei ragweld) boed yn seiliedig ar gontract, camwedd neu fel arall, i’r graddau llawnaf a ganiateir yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atebolrwydd am: golli data neu elw; toriadau neu oedi i’r wefan; darparu neu fethu â darparu gwasanaethau; unrhyw wybodaeth, deunydd, nwyddau a gwasanaethau a gafwyd trwy’r wefan; neu fel arall sy’n deillio o’ch defnydd o’r wefan.
Force majeure
Ni fydd Cyngor Caerdydd yn torri ei rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn, nac yn atebol i unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan am unrhyw golled neu ddifrod y gallai parti arall ei ddioddef oherwydd unrhyw achos y tu hwnt i’w reolaeth resymol. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw weithred ddwyfol, streic, anghydfod diwydiannol, gweithred terfysgaeth, gweithred neu anwaith llywodraeth neu gyrff rheoleiddio.