Roedd nofio yn Llyn Parc y Rhath ar un adeg yn weithgaredd poblogaidd iawn yr oedd cannoedd o breswylwyr Caerdydd yn ei fwynhau bob wythnos yn ystod yr haf. Ym 1898, cyflogodd y Cyngor ‘arbenigwr nofio’ oedd yn cael ei dalu 26 swllt yr wythnos i oruchwylio nofwyr yn y llyn. Yn ddiweddarach, newidiodd y rôl hon i ‘Gynorthwy-ydd Achub Bywydau’, sy’n cyfateb i achubwr bywydau modern.
Adeiladwyd y llwyfan ymdrochi ym 1900 a gosodwyd bwrdd plymio i nofwyr ei fwynhau.
Er bod cymaint o bobl yn nofio yn y llyn, nid oedd ystafelloedd newid na lleoedd i adael dillad. Ym 1901 adroddwyd bod nofwyr oedd yn newid yn achosi tramgwydd i feicwyr oedd yn pasio. Ar ôl llawer o drafodaeth, prynwyd 100 o lwyni Llawryf i’w plannu fel sgrin ar gyfer y llwyfan ymdrochi ym 1905.
Yn haf 1907, roedd dros 500 o nofwyr y dydd yn aml. Caniatawyd nofio rhwng 6am a 9am bob dydd, ac roedd yn ofynnol i bobl wisgo ‘gwisgoedd ymdrochi priodol’. Ym 1908, adeiladwyd 63 o ‘flychau gwisgo’, y gallai nofwyr eu defnyddio am ffi o 1 hen geiniog.
Arweiniodd poblogrwydd parhaus nofio yn y llyn at yr angen am reolau a rheoliadau ar gyfer nofio, a darparu gwisgoedd ymdrochi i’w llogi. Cyflwynwyd nofio gyda’r nos hefyd ym 1909. Daeth pobl o bob cwr o’r ddinas i nofio, a byddai rhesi niferus o feiciau ar hyd y llwybrau troed.
Nid tan fis Mehefin 1911 y caniatawyd nofio cymysg yn y llyn. Ni chaniatawyd i ddynion lanio ar ardal y llwyfan ymdrochi o flaen blychau gwisgo’r merched ac i’r gwrthwyneb. Yn haf arbennig o gynnes 1911, adroddodd yr Uwch-arolygydd Parciau W. W. Pettigrew fod mwy na 44,000 o nofwyr wedi mynd trwy’r gatiau troi i’r llwyfan ymdrochi. Yn y blynyddoedd dilynol, roedd nifer y nofwyr yn parhau i gynyddu, er bod hyn yn amrywio’n fawr yn dibynnu ar y tywydd.








