Parc y Rhath

Ynglŷn â Pharc y Rhath

Parc y Rhath, a agorwyd ym 1894 oedd un o’r parciau cyhoeddus cyntaf yng Nghaerdydd ac mae’n cadw ei awyrgylch Fictoraidd clasurol a chynllun y parciau llinellol llawn cymeriad sy’n mynd ar hyd Nant Fawr.

Mae pob rhan o’r parc wedi ei ddylunio at ddiben penodol ac mae’r parc yn dal i gynnig ystod eang o ddiddordeb garddwriaethol, cadwraeth natur a gweithgareddau i hyfrydu ymwelwyr heddiw.

Mae Parc y Rhath yn un o barciau Baner Werdd y ddinas.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc a’r gerddi hamdden ar agor o 7.30am tan 30 munud cyn y machlud.

Mae’r tir hamdden ar agor 24 awr y dydd.

Parcio: Mae parcio ar y stryd yn yr ardal o amgylch y parc.

Prosiect Argae Parc y Rhath

Sylwer bod gwaith parhaus ym Mharc y Rhath a allai effeithio ar eich profiad ymweld

Nodweddion

  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 1: Mae’r parc ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Llyn Parc y Rhath: Mae’r llyn 30 erw artiffisial yn gyfleuster poblogaidd gan bysgotwyr a chychod. Mae Goleudy Coffa Scott ar y llyn yn un o ddelweddau eiconig Caerdydd.
  • Gardd Wyllt: Tua’r gogledd o’r llyn, mae’r llwybrau troellog a’r blodau gwyllt dan gysgod y coed.
  • Ofal Llandennis: Tua’r gogledd o’r ardd wyllt, mae hwn yn safle llawn hanes. Yn ôl y chwedl, yn y 12fed ganrif sefai Llan Sant Isan yn lle mae’r pwll nawr.
  • Gardd Fotaneg: Tua’r de o’r argae, mae’r ardd fotaneg yn cynnwys casgliad arbennig o goed a llwyni, arddangosiadau blodau, man chwarae antur a Thŷ Gwydr Parc y Rhath.
  • Gerddi Pleser y Rhath: Tua’r de o Eastern Avenue, mae’r gerddi pleser yn cynnig cyfleusterau bowlio, tenis a phêl-fasged mewn tir parc.
  • Tir Hamdden y Rhath: Tua’r de ddwyrain o’r Gerddi Pleser, mae cartref pêl-fas Cymru hefyd yn cynnig caeau pêl-droed a rygbi, man chwarae i blant a llwybr ffitrwydd.

Cyfleusterau

  • Tŷ Gwydr Parc y Rhath (Gardd Fotaneg) ar agor am deithiau ar eich liwt eich hunan ac ymweliadau ysgol.
  • Toiledau cyhoeddus a llefydd newid cewynnau – Y drws nesaf i’r man chwarae yn y gerddi Botaneg.
  • Toiledau’r orsaf gychod – Ar agor pan fo’r orsaf gychod ar agor.
  • Mannau chwarae plant (Gardd Fotaneg a Thir Hamdden)
  • Caffi Parc y Rhath (Gardd Fotaneg)
  • Llwybr Ffitrwydd: yn nhir hamdden y Rhath
  • Cyrtiau tenis: ar agor trwy’r flwyddyn yng Ngerddi Pleser Parc y Rhath – heb gost
  • Lawnt Fowlio a’r pafiliwn: yng Ngerddi Pleser y Rhath
  • Ciosg hufen iâ (Gardd Fotaneg)
  • Llogi cychod o’r doc cychod yn Llyn Parc y Rhath
  • Caeau chwaraeon ac ystafelloedd newid ar gael i’w bwcio
  • Bowlio a thenis yng Ngerddi Pleser y Rhath
  • Llwybr Fforio Bywyd Gwyllt: i blant – (lawrlwythwch daflen)
Roath Park conservatory

Tŷ Gwydr Parc y Rhath

Bydd y Tŷ Gwydr ar agor yn ddyddiol 11am – 4pm.

Llogi Pedalo

Mae llogi pedalo ar gau ar gyfer y tymor a byddwn yn ailgychwyn yn nhymor y Gwanwyn 2024.

Yr archeb cwch olaf am 6.15pm i’w ddychwelyd erbyn 6.45pm.

  • Llogi hanner awr: £8.00
  • Llogi 1 awr: £15.00

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Llyn Parc y Rhath 51.509604 / -3.174913
Tŷ Gwydr Parc y Rhath / Gardd Fotaneg 51.50511 / -3.17522
Tir Pleser y Rhath 51.500875 / -3.172738
Gardd Wyllt 51.514857 / -3.175843
Ofal Llandennis 51.518255 / -3.177266
Tir Hamdden y Rhath 51.498489 / -3.167042

What3words: skinny.visa.cook

Darganfod y parc

Roath park dam with lighthouse and runner
Roath park dam with lighthouse and play park
Roath park conservatory
Abridge over the stream at Roath Park lake
Roath park memorial garden
Roath park lake overflow
Love exploring logo
LLawrlwythwch yr app ‘Love Exploring’ i chwarae am ddim

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd