Parc Trelái

Ynglŷn â Parc Trelái

Agorwyd ym 1933, mae Parc Trelái yn fan agored yn ardal Caerau, Caerdydd. O 1855, roedd y safle yn lleoliad rasio ceffylau pwysig. Mae’r parc nawr yn un o gaeau chwarae mwyaf Caerdydd, ac mae yno faes parcio mawr ac ystafelloedd newid.

Yng nghanol y parc mae safle Plasty Rhufeinig sy’n dyddio o’r ganrif gyntaf OC.

Mae llwybrau trwy’r parc i Goed Lecwydd .

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parcio: Mae parcio ar gael yn y maes parcio oddi ar Vincent Road.

Nodweddion

Treli park
  • Safle’r Plasty Rhufeinig: Ym 1894, darganfuwyd y Plasty Rhufeinig ar Gwrs Rasio Trelái ac fe’i cloddiwyd ym 1922. Mae safle’r plasty yn dal i’w weld fel darn o gwair nad yw’n cael ei dorri yng nghanol Parc Trelái er bod tyfiant dros yr olion. Mae’r safle yn Heneb Gofrestredig.
  • Coed Lecwydd: tua’r de o’r parc, gellir mynd yno ar hyd isffordd dan y ffordd osgoi. Yn eiddo i Gyngor Caerdydd gynt, rheolir y coetir bellach gan Gyngor Bro Morgannwg.
  • Afon Elái: Yr afon yw ffin ddwyreiniol y parc y tu hwnt i’r rhandiroedd. Mae Llwybr Elái, sydd yr ochr arall i’r afon, yn gysylltiad i gerddwyr a beicwyr rhwng y wlad yn ardal Sain Ffagan a Bae Caerdydd.

Cyfleusterau

Nid oes toiledau na chyfleusterau lluniaeth ym Mharc Trelái.

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Maes parcio Trelái 51.479233 / -3.2352259

What3words: gladiators.dash.gums

Darganfod y parc

Treli park football pitches
Treli park swings
Treli park skate ramps

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd