Llwybr Elái

Mae’r Daith yn dilyn yr Afon Elái o’r arfordir ym Mae Caerdydd i’r cefn gwlad yn Sain Ffagan am oddeutu 7 milltir. Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr yn rhydd o draffig, ac yn hygyrch i gerddwyr a beicwyr ei fwynhau.

Gellir gweld Llwybr Elái  yn hawdd o bont eiconig Pont y Werin. Gan basio Pentref Chwaraeon trawiadol Caerdydd ar hyd rhan fer ar-y-ffordd, mae’r llwybr yn ailymuno â glan yr afon ym Mharc Grangemoor.

Ar ôl croesi Heol Penarth, mae’r llwybr yn parhau ar hyd glan yr afon gyda llefydd picnic bach gwych a llwyfannau pysgota ar hyd y ffordd. Gan fynd dros Heol Lecwydd a pharhau ar hyd y llwybr coediog ar lan yr afon, mae’r llwybr yn mynd o dan bont fawr. Ewch yn syth ymlaen tuag at Lawrenny Avenue ac yna ewch i’r chwith ar hyd ochr uchaf Parc Sanatorium.

Ar y pwynt hwn, mae dau opsiwn o ran llwybr:

Mae gwyriad dros dro ar safle’r Felin Bapur lle mae tai newydd yn cael eu hadeiladu ac yn y dyfodol felly bydd parhad Llwybr Elái ar hyd glan yr afon angen dilyn y ffyrdd tawel o amgylch Parc Victoria sy’n mynd heibio Gorsaf Reilffordd Waun Gron.

Ewch ymlaen ar hyd Ffordd Bwlch nes cyrraedd tro sydyn i’r dde lle mae Landwade Close yn ymuno o’r chwith. Oddi yno byddwch yn ymuno â’r llwybr di-draffig unwaith eto, o lwybr tu ôl i’r tai ar Landwade Close. Mae’r llwybr yn troelli trwy Goedwig Glan Elái cyn cyrraedd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, lle mae’r llwybr yn dod i ben.

Opsiynau: Ystyriwch fynd i ben allt Grangemoor i weld golygfeydd ysblennydd o Gaerdydd neu i gymryd rhan yn y Llwybr Chwilota am Fywyd Gwyllt. Paciwch bicnic oherwydd mae digon o lefydd i aros ar hyd rhannau afon o’r daith, i weld bywyd gwyllt gan gynnwys glas y dorlan a bronwen y dŵr. Gorffennwch y daith yn Amgueddfa Sain Ffagan, neu’r Plymouth Arms am beint o gwrw lleol a thamaid i’w fwyta.

Mae Dyffryn Elái yn un o goridorau gwyrdd Caerdydd gydag amrywiaeth o wahanol dirweddau a chynefinoedd ac mae llawer o’r afon a’i glannau wedi eu dynodi fel Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur. Ger Bae Caerdydd, gallwch weld crëyr glas, glas y dorlan ac adar dŵr eraill. Bydd clychau’r gog, blodau’r gwynt a garlleg gwyllt yn gorchuddio’r coetiroedd yn y gwanwyn. Mae dyfrgwn ar hyd yr afon, ond byddech yn lwcus iawn i weld yr anifeiliaid swil hyn.

Mae Llwybr Elái  yn dod i ben yn Amgueddfa Werin  Cymru,  Sain Ffagan, lle gall ymwelwyr ymweld â’r Maenordy o’r 16eg Ganrif ynghyd â 100 acer o barc. O fewn y safle mae 40 adeilad sydd wedi eu symud o rannau eraill o Gymru a’u hailgodi i ddangos sut yr oedd pobl yn byw ar wahanol adegau mewn hanes. Ymhlith nodweddion eraill  o  ddiddordeb,  mae Hen Bont Lecwydd, Heneb Restredig, a’r Tŷ Pwmp (gorsaf bwmpio carthffosiaeth yn flaenorol).

Celc Oes yr Efydd:  mae’r celc yn cynnwys dau flaen gwaywffyn Oes yr Efydd, pum bwyall, a rhan o lafn cleddyf yn perthyn i’r bobl oedd yn byw yng Nghymru ar ôl 2,500BC tan ganol y ganrif gyntaf OC. Daethpwyd o hyd i’r celc yng Nghoedwig Fawr Sain Ffagan yn 1862, wrth gloddio am gerrig i adeiladu Rheilffordd y Great Western. Cafodd y coetir, sydd yn awr yn fan agored cyhoeddus, ei ailenwi’n Goedwig Fawr Plymouth yn 1922, pan gafodd ei roi i’r Ddinas gan Iarll Plymouth, i gael ei gadw fel man adloniant cyhoeddus. Mae chwareli carreg a chalchfaen segur yn Radur yn dal yn weladwy yn rhan ddeheuol y goedwig, a gellir eu cyrraedd o Llewellyn Avenue, Trelái. Mae’r brif lein reilffordd sy’n rhedeg wrth ymyl y coed bellach yn rhan o Network Rail, yn cynnwys y lein o Abertawe i Lundain, a gellir ei chroesi trwy’r groesfan wastad ar Michaelston Road, Sain Ffagan.

Bragdy Tower 1963 Gweithdai Bragdy Trelái – Station Terrace, Trelái  

Dyma safle’r Bragdy Tower ôl-ganoloesol a agorwyd ym 1855 fel rhan o Gwmni Bragdy Trelái, fel y nodwyd ar y map Argraffiad Cyntaf 1885 (OS).Yn ne Cymru ddiwydiannol yng nghanol y 19eg ganrif, roedd yn llawer mwy diogel yfed y cwrw na chyffwrdd y dŵr, fel y canfu llawer o ddioddefwyr colera. Yn ôl hysbyseb liw ar gyfer Bragdy Trelái mewn llawlyfr swyddogol Caerdydd yn 1955, disgrifiwyd y cynnyrch fel y ‘Beer of Good Cheer’. Yn 1960, cymerwyd Bragdy Trelái drosodd gan Rhymney Brewery Ltd., a ddisgrifiwyd fel y busnes bragdy mwyaf yng Nghymru, sydd â hanes yn rhychwantu dros 140 o flynyddoedd. Fe’i prynwyd gan Whitbread yn yr 1960au hwyr. Mae’r safle, sydd wedi’i leoli ar Station Terrace, Trelái yn awr yn gartref i weithdai Bragdy Trelái.

Cleddyf yr Oes Efydd

Canfuwyd prif ran y llafn siâp deilen o’r cleddyf efydd, a elwir yn gyffredin yn fath ‘Ewart Park’, heb y carn-blât a phen y llafn, ar hen safle melin bapur Wiggins Teape (Arjo Wiggins), ym Mhont Elái.

Roedd Wiggins Teape yn wneuthurwr a masnachwr papur arbenigol, a sefydlwyd yn 1761. Erbyn diwedd yr 1970au roedd yn berchen ar felinau papur, a ffatrïoedd dros y byd i gyd. Yn 1990 unodd gydag Appleton Papers Inc. ac fe’i hailenwyd yn Wiggins Teape Appleton plc, yn ddiweddarach bu’n masnachu fel Arjo Wiggins. Daeth y gweithrediadau i ben yn 2000 ac mae’r safle bellach wedi ei glirio yn barod ar gyfer ei ailddatblygu. Bydd y gwaith yn cynnwys mannau agored, cyswllt pont i Drelái a chreu’r rhan olaf o Lwybr Elái. Bydd hyn yn cysylltu â’r rhannau presennol o Barc Sanatorium, Lecwydd a Wroughton Place (oddi ar Heol Orllewinol y Bont-faen), ym Mhont Elái.

Cwrs Dŵr wedi’i Newid, o ddyddiad ôl-ganoloesol – Afon Elái

Mae hwn yn gwrs dŵr o ddyddiad ôl-ganoloesol, a nodwyd ar fapiau Argraffiad Cyntaf (OS chwe modfedd)  o ardal astudiaeth Trelái a Bro Morgannwg, Ers hynny, newidiwyd cwrs yr Afon Elái mewn mannau eraill hefyd, gan gynnwys ar gyfer adeiladu ffordd Gyswllt Grangetown.

Ar droid/beic:

Ceir mynediad hawdd i’r Daith o ardal drefol o amgylch. Mae dechrau’r llwybr ar Dunleavy Drive sy’n gyfagos at Barc Grangemoor, ac mae’n gorffen ym mhentref Sain Ffagan ar Allt y Castell.

Ar y bws:

Mae nifer o lwybrau bws ar hyd y ffyrdd yn Sain Ffagan, Y Tyllgoed, Lecwydd a Bae Caerdydd. Ceir manylion am y llwybrau a’r gwasanaethau bws yn www.cardiffbus.co.uk

Yn y Trên:

Mae gorsafoedd trên ger y Llwybr yn cynnwys Gorsaf Cogan sy’n agos at gychwyn y Llwybr, Waungron Road a Fairwater Halt. Fodd bynnag, mae Gorsaf Caerdydd Canolog gerllaw Gorsaf Bws Caerdydd yn darparu cysylltiadau da i weddill y ddinas. Ceir manylion am y gwasanaethau trenau yn www.nationalrail.co.uk

Yn y car:

Mae nifer o lefydd ar hyd y llwybr i barcio o fewn pellter cymharol hawdd i’r Llwybr.

Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r daith (neu i adrodd am unrhyw broblemau) cysylltwch â Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ar 029 2078 5200.

© Outdoor Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd