Parc Thompsons

Ynglŷn â Parc Thompsons

Hwn yw un o barciau hynaf Caerdydd; gardd breifat oedd y parc i gychwyn ac fe’i hagorwyd i’r cyhoedd ym 1891 gan ei pherchennog, Charles Thompson. Mae’r parc hanesyddol yn un gradd 2 , ac fe’i adwaenid yn wreiddiol fel Cae Syr David. Cafodd ei ehangu a’i dirlunio gan y dylunydd gardd enwog, Syr William Goldring , tua 1895. Ym 1911, rhoddodd Mr Thompson y parc i Gorfforaeth Caerdydd.

Mae’r parc deniadol hwn, gyda’i bistyll dŵr eiconig yn fan poblogaidd i dreulio amser.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor o 7.30am tan 30 munud cyn y machlud trwy’r flwyddyn.

Parcio: Mae parcio ar y stryd yn yr ardal o amgylch y parc.

Nodweddion

  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2: Mae’r parc ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Cerflun ‘Joyance’: cerflun yn y pistyll gan Syr William Goscombe.

Cyfleusterau

  • Gerddi addurniadol: seddau a llwybrau deniadol
  • Cae hamdden: rhan uchaf y safle

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Mynediad isaf (Romilly Road) 51.485285 / -3.2095583
Mynediad uchaf (Pencisely Road) 51.488305 / -3.2106473

What3words: energy.venues.door

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd