Parc Llyn Hendre

Ynglŷn â Parc Llyn Hendre

Ffefryn ar gyfer gwylio adar a physgota, cafodd Parc Llyn Hendre arian gan yr Undeb Ewropeaidd yn y 1990au i wella ei 58 hectar (143 erw) yn ardal Llaneirwg, Caerdydd.

Mae’r gylchdaith o amgylch y llyn yn ddelfrydol ar gyfer tro bach.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parcio: Mae maes parcio bychan ar gael a pharcio ar y stryd yn yr ardal o amgylch y parc.

Nodweddion

Hendre lake memorial
  • Llyn pysgota mawr â digon o bysgod: rheolir gan Clwb FAW
  • Mannau eistedd: o amgylch y llyn er mwyn gorffwys a mwynhau’r golygfeydd
  • Cysylltiadau â llwybrau troed: Mae Llyn Hendre yn rhan o orllewin Gwastatir Gwynllŵg. Nod project Lefelau Byw yw adfer ardaloedd y gwastatir a gwella dealltwriaeth leol o’r tirlun pwysig hynafol hwn sy’n estyn o Gas-gwent i Gaerdydd ar hyd Aber Hafren.
  • Llyn mawr yng nghanol bywyd gwyllt
  • Mannau gwylio ar draws y llyn
  • Llwyfannau pysgota ar gael i’w defnyddio (dim angen bwcio)

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Maes parcio 51.519080, -3.086138
Willowbrook drive 51.520728, -3.092682
Lloyd Place 51.518450, -3.091581
Matthysens Way 51.515078, -3.095423

What3words: dunes.recall.enable

Darganfod y parc

Hendre lake sunset
Hendre lake footpath
Wildlife at Hendre Lake
Hendre lake reeds
Frozen hendre lake
Sunrise near Hendre Lake
Frosty Hendre Lake

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd