Parc Hailey

Ynglŷn â Parc Hailey

Mewn lleoliad canolog yn Nyffryn Taf, mae Parc Hailey ychydig tua’r gogledd o Landaf ac mae’n cynnig ystod o gyfleusterau chwaraeon a chwarae. Mae Llwybr Taf yn mynd trwy’r safle a chyda llwybr cysylltu newydd defnydd a rennir dros Afon Taf, mae’r parc yn bwynt cychwyn da ar gyfer cylchdeithiau lleol.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Nodweddion

  • Cyrtiau Tenis Dim cost am eu defnyddio a dim angen bwciocharge
  • Teithiau cerdded a beicio glan yr afon ar hyd Llwybr Tafthe
  • Pont cerddwyr a beicwyr dros yr afon i Danescourt a Radur
  • Dôl Bywyd Gwyllt a Reolir The Cafodd Cyfeillion Parc Hailey Wobr Baner Werdd Gymunedol yn 2013 am eu gwaith rheoli dolydd.

Cyfleusterau

  • Cyfleoedd gwirfoddoli Mae Gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol y Parciau yn trefnu dyddiau gwaith a gweithgareddau eraill mewn cydweithrediad â Chyfeillion Parc Hailey .
  • Maes parcio oddi ar Radyr Road
  • Caeau chwaraeon ac ystafelloedd newid ar gael i’w harchebu. Maes parcio ceir penodol ar gyfer ystafelloedd newid yn Tŷ Mawr Road.
  • Man chwarae i blant catering ar gyfer plant hyd at tua 12 oed

 

Nid oes toiledau cyhoeddus ym Mharc Hailey.

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred/hydred)
Maes parcio (Radyr Road) 51.506532, -3.232666
Maes parcio (Tŷ Mawr Road – ystafelloedd newid yn unig) 51.508477, -3.233251
Mynediad i gerddwyr (cyrsiau tenis) 51.501114, -3.227810

What3words: loving.many.aside

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd