Gerddi Bryn Rhymni

Ynglŷn â Gerddi Bryn Rhymni

Ar Fryn Rhymni, ochr ddwyreiniol Afon Rhymni, parc ffurfiol bychan a thawel ydy Gerddi Bryn Rhymni, a sefydlwyd yn y 1950au ar gyfer cymuned Llanrhymni a oedd yn prysur dyfu.

Y tu cefn i dai, saif y parc ar lwybr Taith Rhymni, sy’n dilyn yr afon tua’r gogledd o’r môr ac sy’n cynnig llwybrau cerdded a beicio hyfryd tua’r ddau gyfeiriad.

Mae Gerddi Bryn Rhymni yn un o barciau Baner Werdd Caerdydd .

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r tir ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Mae maes parcio wrth fynedfa’r parc.

Nodweddion

  • Garddwriaeth Ffurfiol: Mae’r parc yn adnabyddus am ei arddangosiadau gwelyau blodau tymhorol yn y gwanwyn a’r haf.
  • Taith gerdded yn y coetir Islaw’r parc mae llwybr yn y coetir sy’n cysylltu â thir llif yr afon a Chaeau Chwarae Glan yr Afon oddi tanodd.
  • Taith Rhymni: Mae’r llwybr yn mynd trwy’r parc, gan gynnig llwybr cerdded a beicio deniadol o’r wlad tua’r gogledd a’r arfordir tua’r de.

Cyfleusterau

  • Lawnt Fowlio
  • Cyrtiau tenis: ar agor trwy’r flwyddyn – heb gost
  • Byrddau gwybodaeth
  • Taith Fforio Bywyd Gwyllt: i blant – (lawrlwythwch daflen)

 

Nid oes toiledau cyhoeddus yng Ngerddi Bryn Rhymni.

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Prif fynedfa 51.506296, -3.136688

What3words: nobody.poem.moons

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd