Taith Rhymni

Rhodfa Gwynllŵg

Rhodfa Gwynllŵg – Yr Arfordir (1.7 cilometr) Mae’r rhan hon o Lwybr Rhymni yn gorwedd ar ochr ddwyreiniol ceg Afon Rhymni. Arweinia’r llwybr o Rodfa Gwynllŵg i’r blaendraeth, darn o arfordir heb ei ddatblygu, gyda Lefelau Gwynllŵg tua’r dwyrain. O Rodfa Gwynllŵg mae’r llwybr yn dilyn y prif lwybr i’r arfordir.

Taith Gylchol (2 .8 cilometr) – I gerdded llwybr cylchol, cymerwch y llwybr sy’n rhedeg cyfochrog â’r prif lwybr ar draws y ffos ddraenio. Fodd bynnag, mae’r daith hon yn fwy garw na’r llwybr troed dynodedig, ac efallai na fydd yn addas i bawb.

Cyswllt â Pharc Tredelerch – O gychwyn y daith, ar Rodfa Gwynllŵg, cerddwch tua’r chwith tuag at gylchfan Ffordd Lamby, gan gadw ar y palmant ar ochr chwith y ffordd. Ar y gylchfan croeswch y ddwy  ffordd tuag at Barc Tredelerch (gan fod yn hynod ofalus oherwydd maint a chyflymder y traffig). Ar Ffordd Lamby cerddwch am 105 metr at bwynt lle ceir mynediad i’r maes parcio a man picnic. Unwaith y byddwch ym Mharc Tredelerch, gallwch ddilyn Llwybr Rhymni tua’r gogledd, neu gymryd un neu ddau lwybr cylchol arall (gweler Caeau Chwarae New Road Llwybr Rhymni).

 

Caeau Chwarae New Road

Caeau Chwarae New Road – Parc Tredelerch (0.8 cilometr) –  Mae’r llwybr oddi ar y ffordd drwy Gaeau Chwarae New Road yn cychwyn ar New Road. Yn y caeau chwarae ewch i’r chwith a dilyn y Llwybr Troed o amgylch yr ymylon. Pan fo’r Llwybr Troed yn cyrraedd Brachdy Lane trowch i’r dde a chroesi’r bont droed dros y rheilffordd i Barc Tredelerch. Trowch i’r chwith a cherdded am 60m. Dilynwch y llwybr i’r llyn, croesi’r llyn ar y llwybr bordiau, (mae’r llwybr beicio yn parhau o amgylch y llyn). Ar ôl croesi’r llyn dilynwch y llwybr troed i’r dde, at groesffordd. Dyma ddwy daith gerdded gylchol bosibl yn ôl at fynedfa Parc Tredelerch.

Taith Gylchol 1 – Parhewch ar hyd y llwybr sy’n eich arwain at ymyl y llyn (tua 750 metr), gan gadw i’r dde pan ddewch at fforch yn y llwybr.

Taith Gylchol 2 – Wrth y groesffordd trowch i’ch chwith, ar ôl 30 metr trowch i’r chwith eto, yn ôl ar hyd y llwybr at fynedfa Parc Tredelerch. Mae taith gerdded gylchol hefyd yng nghaeau chwarae New Road.

Cyswllt â Gerddi Rumney Hill (0.7cilometr) – O gaeau chwarae New Road, trowch i’r dde ar hyd New Road, yna i’r chwith ar hyd Heol Tredelerch am 60 metr. Dilynwch y llwybr trwy Erddi Catherine i Tŷ Mawr Road a throi i’r chwith. Yn Heol Casnewydd trowch i’r dde wrth y groesfan i gerddwyr. Croeswch ac ewch i’r dde am 70 metr, gan droi i’r chwith i’r ffordd fynedfa i Erddi Rumney Hill (Gweler pamffled gerddi Rumney Hill – Tanffordd Pontprennau).

Gerddi Rumney Hill

Rhed yr adran hon o’r daith o Erddi Rumney Hill hyd at Bentwyn, ac mae ar agor i gerddwyr a beicwyr.

Dilynwch y daith gan ddefnyddio arwyddion gyda logo Rhymni. Mae’r llwybr yn goleddu i lawr o Erddi Rumney Hill (a allai fod yn anaddas i ddefnyddwyr cadair olwyn) cyn agor i’r arglawdd. Cadwch i’r chwith. Ceir gwelyau cors ar y chwith, ac ar y dde ceir dôl o flodau gwyllt. Parhewch ar hyd yr arglawdd gan fynd heibio Ysgol Uwchradd Llanrhymni ar eich ochr dde; pan fyddwch yn cyrraedd y ffordd trowch i’r chwith ar bont droed gan groesi’r afon (gallai’r bont droed fod yn anaddas i ddefnyddwyr cadair olwyn) ac yna i’r dde i barhau â’r llwybr. Dilynwch y llwybr hyd nes i chi gyrraedd cyffordd – cymerwch droad i’r chwith. Parhewch ar hyd y llwybr i groesffyrdd. Trowch i’r dde, a pharhewch nes y byddwch yn cyrraedd y danffordd o dan yr A48, lle daw’r llwybr i ben ar hyn o bryd.

Teithiau posibl eraill – O’r danffordd o dan yr A48, parhewch nes i chi gyrraedd Pontprennau. Os byddwch yn croesi Church Road, ceir llwybr da oddi ar y ffordd i gerddwyr/beicwyr drwy’r man agored – tua 1 cilometr (mae’r llwybr hwn yn eithaf serth).

Llwybr Cylchol (gweler map 1) 3.6cilometr –  Ceir taith gylchol hefyd (wedi’i nodi â marcwyr llwybr) o Gerddi Rumney Hill. Dilynwch y cyfarwyddiadau i Ball Lane. Yn hytrach na throi i’r chwith dros y llwybr troed, trowch i’r dde ar hyd Ball Lane. Wrth gatiau Ysgol Uwchradd Llanrhymni trowch i’r dde ar Ball Road. Ar ôl 30 metr trowch i’r dde i Hartland Road. Dilynwch y ffordd hon hyd nes y daw’n llwybr. Dilynwch y llwybr drwy gaeau chwarae Tredelerch i’r llethr yn ôl fyny i Rumney Hill. Mae’r bryn hwn yn eithaf serth. Er mwyn osgoi’r llethr, gellir cychwyn a gorffen y daith yn Ball Lane.

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau a’r map

Mae’r ystod o fywyd gwyllt ar hyd y Daith yn anhygoel. Gan ddechrau yn Lefelau Gwynllŵg gyda’i ffosydd dwfn, mae’n beth cyffredin gweld Crëyr Glas ac adar sy’n gysylltiedig ag Aber yr Afon Hafren. Yna mae’r daith yn mynd heibio llyn ym Mharc Tredelerch a thros Rumney Hill i wastadeddau eang gwastatir llifwaddod afon Rhymni Mae gwelyau cyrs, sgriffiadau a chorsydd yn rhoi cynefin gwych i fywyd gwyllt. Mae’r afon ei hun yn goridor bywyd gwyllt gwerthfawr.

Ceir tystiolaeth o weithgarwch Rhufeinig yn rhannau isaf Cwm Rhymni.

Fodd bynnag, nid yw’r afon Rhymni yn meddu ar etifeddiaeth chwyldro diwydiannol, fel yr afon Taf. Ffurfiwyd ardal Lefelau Gwynllŵg wrth geg yr afon gan ddyn – cafodd ei hadennill o’r môr, ac mae’n cael ei diogelu gan wal fôr. Mae Llwybr Rhymni yn cychwyn ar y morglawdd sydd nesaf at y pwynt trig isaf yng Nghaerdydd.

Ar droid/beic:

Mae’n hawdd cyrraedd y Llwybr o gymunedau cyfagos Tredelerch a Llanrhymni. Ceir pwyntiau mynediad hefyd o Lanedern, Pentwyn a Phentref Llanedern.

Yn y car:

Mae nifer o lefydd i barcio yn Nhredelerch a Llanrhymni, o fewn pellter cymharol hawdd i’r Llwybr.

 

Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r daith (neu i adrodd am unrhyw broblemau) cysylltwch â Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ar 029 2078 5200.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd