Dyddiad: 25/03/2024 - 01/05/2024
Amser: All Day
Rydym yn gwella Gerddi Shelley, ac rydym am i chi ein helpu drwy gymryd rhan yn ein gweithdy ymgynghori a dylunio cymunedol. Mae eich meddyliau a’ch syniadau yn allweddol i wneud yn fawr o’r man gwyrdd.
Os ydych yn rhannu eich syniadau a’ch dewisiadau, gallwch ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i’ch gofod cymunedol.
Mae ein gweledigaeth yn cynnwys:
- ardaloedd cymdeithasol gwell,
- lle ymarfer corff awyr agored,
- lle i ferched a phobl ifanc,
- celfyddyd gymunedol,
- rhagor o fannau chwarae, a
- rhandiroedd cymunedol.
Cymerwch ran
Ymunwch â ni yng Ngerddi Shelley o 2.30pm i 4.30pm:
- Dydd Mawrth 9 Ebrill
- Dydd Mercher 10 Ebrill
- Dydd Iau 11 Ebrill
Os na allwch chi ddod i ymuno â ni, anfonwch eich syniadau a’ch meddyliau i parciau@caerdydd.gov.uk.
Gallwch gwblhau arolwg ar-lein i ddweud eich dweud ar Erddi Shelley.
Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn yn cymryd eich syniadau a’ch adborth ac yn dechrau llunio cynllun ar gyfer Gerddi Shelley. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned am ein cynnydd a sut mae eich syniadau’n cael eu cynnwys yn y dyluniad.
Comments are closed.