Dyddiad: 23/05/2026 - 24/05/2026
Amser: 10:00 am - 3:00 pm
Dydd Sadwrn 23 Mai
Bydd dwy sesiwn:
10:00 – 12:00
13:00 – 15:00
Dydd Sul 24 Mai
Bydd dwy sesiwn:
10:00 – 12:00
13:00 – 15:00
Digwyddiad am ddim (mae angen cadw lle)
Dewch draw i Fferm y Fforest i ddysgu popeth am ddenu bywyd gwyllt i’ch gardd. Ni waeth pa mor fawr neu fach, gall pob gardd a gofod awyr agored fod yn hafan i fywyd gwyllt.
Mae’r sesiwn yn cynnwys taith dywys o ardd fwthyn a pherllan y ffermdy, gemau garddio a gweithgareddau i blant ac yn gorffen gyda gweithdy lle byddwch yn creu gardd fach eich hun i fynd â hi adref.
Mae’r holl ddeunyddiau a phlanhigion wedi’u cynnwys. Sylwch y bydd angen i chi allu cludo blwch plannu bach adref ar ddiwedd y digwyddiad.
Bydd hwn yn ddigwyddiad yn yr awyr agored, felly gwisgwch esgidiau a dillad addas.
Tocynnau
Bydd hwn yn ddigwyddiad yn yr awyr agored, felly gwisgwch esgidiau a dillad addas.
Mae croeso i bob oedran a gallu ond rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw gymorth penodol arnoch.
Lleoliad: Canolfan y Wardeiniaid, Fferm y Fforest, Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
What3words: ///twist.unique.mini
Trên agosaf: Gorsaf drenau Radur, taith gerdded 6 munud o ganolfan y Wardeiniaid
ws agosaf: Radur – Heol yr Orsaf (Rhif 63)
Beicio: Mae rheseli beiciau ar gael
Os nad ydych chi’n gallu dod i’r digwyddiad mwyach, cofiwch ganslo’ch tocyn i alluogi eraill i fynychu.
Gallwch archebu drwy Eventbrite / Book via Eventbrite:



Comments are closed.