Dyddiad: 20/07/2019
Amser: 11:00 am - 2:00 pm
Croeso i chi ymuno â ni yn natguddiad tri DEIGRYN y DDRAIG ym Mharc Bute, yng nghwmni Ramblers Cymru. Dyma eich cyfle i weld dagrau’r ddraig cyn iddynt gael eu cludo a’u cuddio ar draws Cymru.
Dewch i weld map Cymru mwyaf yn y byd!
Bydd y map yn ddigon mawr i chi a’ch teulu gerdded ar draws y wlad ac ar hyd llwybrau arfordir Cymru. Gwelwch lwybrau a gefnogir gan Ramblers Cymru yn ogystal â’r cyfle i ddweud ble rydych yn meddwl y cuddir dagrau’r ddraig. Profwch eich gwybodaeth am Gymru a darganfyddwch lwybrau hen a newydd y gallwch eu dilyn wrth chwilio am Ddeigryn y Ddraig.
– Sesiwn adrodd stori. Bydd Theatr Luna yn perfformio yn ystod y dydd.
– Cerddoriaeth
– Rhoddion
Bydd caffi ar agor ar gyfer lluniaeth neu mwynhewch bicnic yn y parc neu ar bwys yr afon. Bydd digwyddiadau eraill yn ystod y dydd.
Llyfr newydd gan awdur Dale Davies yw ‘Celtaidd: Search for a Dragon’s Tears’. Dyma adroddiad newydd a dirgel o’r Mabinogi. Bydd y llyfr ar gael i’w brynu ym mis Awst 2019. Gellir darllen mwy o wybodaeth am y llyfr yma: http://www.celtaiddthesearchforthedragonstear.com/
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Ramblers Cymru yma:https://www.facebook.com/RamblersCymru/
Comments are closed.