Roedd y Dderwen Deg yn goeden hynafol eiconig a oedd yn sefyll yng nghornel ogledd-ddwyreiniol yr Ardd Bleser a rhoddodd ei henw i Heol y Dderwen Deg. Mae chwedl leol yn dweud y gwnaeth y Dderwen Deg gysgodi’r Brenin Arthur ar daith ar un adeg.

Ym 1905, amcangyfrifodd yr Uwch-arolygydd Parciau William Pettigrew fod y goeden yn 500-600 mlwydd oed, yno gannoedd o flynyddoedd cyn y parc. Yn anffodus, bu farw’r goeden ar ddiwedd 1925 a chafodd ei thorri i lawr. Gadawyd rhan isaf y boncyff ac ychydig o ganghennau fel atgof. Cafodd y rhain eu symud oddi yno yn y pen draw ym 1935 i wneud cyffordd y ffordd yn fwy diogel i draffig.
Roedd boncyff y goeden yn dal i’w weld ddegawdau yn ddiweddarach, ond erbyn y 1980au roedd wedi pydru i ffwrdd i raddau helaeth. Yna rhoddwyd plac yn ei le i nodi’r man lle roedd y goeden yn arfer sefyll.
Dywedwyd mai Quercus robur (Derwen Goesynnog) oedd y Dderwen Deg. Plannwyd coeden newydd o’r un rywogaeth yn agos at leoliad y goeden hynafol ac mae’n dal yn y fan a’r lle heddiw.

Coed Derw yn y Parc
Mae 12 derwen wedi’u plannu yn y Gerddi Pleser. Mae rhai o’r coed derw hyn yn tarddu o Mecsico, Japan a Hwngari.
Y Dderwen Goesynnog (Quercus robur) a’r Dderwen Mes Digoes (Quercus petrea) yw’r ddwy dderwen fwyaf cyffredin yn y DU. Beth yw’r gwahaniaethau?
Mae gan y Dderwen Goesynnog fes gyda choesynnau. Mae gan y dail goesyn byr iawn wedi’i guddio gan ddwy ddeilen ar y gwaelod.
Mae gan y Dderwen Mes Digoes fes heb goesynnau (disymud) sy’n eistedd ar yr egin. Mae gan y dail goesyn hir.





