Nofio yn y Llyn

Roedd nofio yn Llyn Parc y Rhath ar un adeg yn weithgaredd poblogaidd iawn yr oedd cannoedd o breswylwyr Caerdydd yn ei fwynhau bob wythnos yn ystod yr haf. Ym 1898, cyflogodd y Cyngor ‘arbenigwr nofio’ oedd yn cael ei dalu 26 swllt yr wythnos i oruchwylio nofwyr yn y llyn. Yn ddiweddarach, newidiodd y rôl hon i ‘Gynorthwy-ydd Achub Bywydau’, sy’n cyfateb i achubwr bywydau modern.

Adeiladwyd y llwyfan ymdrochi ym 1900 a gosodwyd bwrdd plymio i nofwyr ei fwynhau.

Er bod cymaint o bobl yn nofio yn y llyn, nid oedd ystafelloedd newid na lleoedd i adael dillad. Ym 1901 adroddwyd bod nofwyr oedd yn newid yn achosi tramgwydd i feicwyr oedd yn pasio. Ar ôl llawer o drafodaeth, prynwyd 100 o lwyni Llawryf i’w plannu fel sgrin ar gyfer y llwyfan ymdrochi ym 1905.

Yn haf 1907, roedd dros 500 o nofwyr y dydd yn aml. Caniatawyd nofio rhwng 6am a 9am bob dydd, ac roedd yn ofynnol i bobl wisgo ‘gwisgoedd ymdrochi priodol’. Ym 1908, adeiladwyd 63 o ‘flychau gwisgo’, y gallai nofwyr eu defnyddio am ffi o 1 hen geiniog.

Arweiniodd poblogrwydd parhaus nofio yn y llyn at yr angen am reolau a rheoliadau ar gyfer nofio, a darparu gwisgoedd ymdrochi i’w llogi. Cyflwynwyd nofio gyda’r nos hefyd ym 1909. Daeth pobl o bob cwr o’r ddinas i nofio, a byddai rhesi niferus o feiciau ar hyd y llwybrau troed.

Nid tan fis Mehefin 1911 y caniatawyd nofio cymysg yn y llyn. Ni chaniatawyd i ddynion lanio ar ardal y llwyfan ymdrochi o flaen blychau gwisgo’r merched ac i’r gwrthwyneb. Yn haf arbennig o gynnes 1911, adroddodd yr Uwch-arolygydd Parciau W. W. Pettigrew fod mwy na 44,000 o nofwyr wedi mynd trwy’r gatiau troi i’r llwyfan ymdrochi. Yn y blynyddoedd dilynol, roedd nifer y nofwyr yn parhau i gynyddu, er bod hyn yn amrywio’n fawr yn dibynnu ar y tywydd.

Llun hanesyddol du a gwyn o'r llwyfan ymdrochi yn Llyn y Rhath
Marc Post, 1926

Erbyn 1920, byddai nofwyr yn talu 2 geiniog yr un am fynediad i’r llwyfan ymdrochi, ynghyd â llogi gwisg nofio a thywel. Ehangwyd y blychau gwisgo i fenywod ym 1924, a chrëwyd seddi i’r rhai oedd eisiau gwylio’r nofio.

Problemau ansawdd dŵr

Achosodd pla o barasitiaid yn y dŵr achosion o lid y croen ymhlith nofwyr yn ystod haf 1928. Defnyddiwyd hydoddiant gwan o sylffad copr i gael gwared ar y parasitiaid yn y llyn heb niweidio bywyd gwyllt a phlanhigion eraill. Roedd hwn yn llwyddiant ac roedd nofio yn boblogaidd unwaith eto erbyn diwedd tymor 1930.

Yn anffodus, bu’n rhaid cau’r llyn eto ym 1947 a’i drin â sylffad copr ar gyfer yr un broblem o barasitiaid. Cafodd ei ailagor ar gyfer nofio, ond nid oedd yn hir cyn i broblemau gydag ansawdd y dŵr eto olygu iddo gau ym 1949. Ar ôl hynny, nid oedd nofio’n cael ei ganiatáu, ar wahân i ddigwyddiadau preifat fel Nofio Taf. Awgrymwyd y gellid gwneud rhan o’r llyn yn bwll nofio gyda chlorin yn y dŵr, ond penderfynwyd y byddai pwll nofio pwrpasol yn opsiwn gwell.

Er i’r llyn gael ei garthu a’i lanhau, cafodd y dŵr ei brofi eto ym 1953 a barn arbenigwyr oedd nad oedd yn ddiogel ar gyfer nofio cyhoeddus. Ar ôl gwaith mawr, torri chwyn a mwy o drin â sylffad copr, agorodd y llyn ar gyfer nofio eto ym mis Gorffennaf 1957. Gwnaed gwaith pellach i wella symudiad dŵr yn y llyn, trwy adeiladu cored a sianel ollwng. Er gwaethaf yr holl waith hwn, profodd profion dro ar ôl tro nad oedd ansawdd y dŵr yn bodloni’r safon ar gyfer nofio a phenderfynwyd na fyddai’r llyn yn ailagor ar ddechrau tymor 1959.

Cerdyn post hanesyddol yn dangos cytiau ymdrochi ar Lyn y Rhath, gyda nofwyr yn paratoi a chwch rhwyfo yn mynd heibio
Cytiau ymdrochi Marc Post 1912 (Cwmni Ffotograffig Brenhinol Llundain (cardiffparks.org.uk)

Irene Steer

Irene Steer oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill Medal Aur yn y Gemau Olympaidd. Enillodd aur ym 1912 yng Ngemau Olympaidd Stockholm a hi oedd nofiwr y cymal olaf yn nhîm ras gyfnewid dull rhydd 4 X 100 llath Prydain wnaeth dorri record y byd.

Dysgodd Irene i nofio yn Maddonau Cilgant Guildford yng nghanol y ddinas a bu’n ymarfer yn Llyn Parc y Rhath.

Hi oedd y nofiwr cyntaf o Gymru i dderbyn tystysgrif Cymdeithas Nofio Cymru am dorri 100 eiliad am 100 llath ym 1907. Enillodd deitl 100 llath Cymru am 7 mlynedd yn olynol o 1907 hyd nes iddi ymddeol yn 1913.

Roedd Irene Steer yn arloeswr chwaraeon. Pan gystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1912, dyma’r tro cyntaf i fenywod fod â hawl i gystadlu mewn cystadlaethau nofio. Byddai’n 96 mlynedd cyn i Gymraes arall ennill aur yn y Gemau Olympaidd. Enillodd Nicole Cooke ras feicio ar y ffordd i fenywod yn Beijing yn 2008.

Llun hanesyddol yn dangos cytiau ymdrochi yn Llyn Parc y Rhath gyda nofwyr
Cytiau ymdrochi, W.H.S.S. Grosvenor Series (cardiffparks.org.uk)

Friends of Roath Park Logo
Gweithio mewnpartneriaeth â Chyfeillion Parc y Rhath

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi PreifatrwyddDatganiad hygyrchedd