Cynllun Rhoi Coed Caerdydd

Coed Caerdydd

Mae Coed Caerdydd yn rhaglen 10 mlynedd i gynyddu nifer y coed yng Nghaerdydd, gan gefnogi strategaeth newid hinsawdd Un Blaned y ddinas.

Er mwyn cynyddu effaith a hirhoedledd y prosiect, rydym yn chwilio am roddion ariannol gan unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol tuag at blannu coed.

Gallwch gyfrannu i’r prosiect:

  • fel rhodd,
  • er cof am anwylyd,
  • i wrthbwyso eich allyriadau carbon, neu
  • i gyfrannu tuag at Fuddion Lles Cymunedol (BLlC) / gwerth cymdeithasol.

Beth bynnag yw’r rheswm dros eich rhodd, byddwch yn helpu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i fwynhau manteision coed.

Amcangyfrif o’r gost gyfartalog fesul coeden a gwaith cysylltiedig:

  • Eginblanhigion: 75c i £1
  • Coed ffrwythau a choed “ifanc”: £35 i £75
  • Coed lled-aeddfed: £150 i £300
  • Ategolion, er enghraifft, polion, clymau neu domwellt: £5-15
  • Gwaith paratoi twll: £100 i £200

Byddwn yn rhoi rhoddion at ei gilydd ar gyfer prosiectau plannu coed mewn ardaloedd ledled y ddinas.  Fodd bynnag, dyma rai enghreifftiau i ddangos yr hyn y gallai gwahanol symiau ei ddarparu:

  • Gall rhoddion llai (£10 i £100) helpu i brynu eginblanhigion ar gyfer coetiroedd a gwrychoedd.
  • Gall rhoddion canolig (£100 i £500) helpu i brynu coed lled-aeddfed a chyflenwadau amddiffyn coed (fel polion) ar gyfer parciau, ysgolion a mannau cymunedol.
  • Gall rhoddion mwy (£500 i £5,000 neu fwy) helpu i gyfrannu tuag at blannu coed stryd. Mae hyn yn cynnwys prynu coed, a gwaith paratoi tyllau coed hanfodol, fel tynnu hen foncyffion.

Mae’n gymhleth cyfrifo’r carbon sy’n cael ei ddal mewn perthynas â choed. Mae hyn oherwydd amrywiadau mewn ffactorau fel:

  • rhywogaethau,
  • cyfradd twf, a
  • dull plannu.

Mae’r ffigurau canlynol yn ganllaw yn unig.

  • Ar gyfartaledd, mae coeden aeddfed yn dal 21kg i 31.5kg o garbon bob blwyddyn. Mae hyn yn dod i oddeutu 1 dunnell dros 100 mlynedd. Mae hyn yn cyfateb i yrru 23,000 milltir.
  • Mae Encon yn nodi y gall oddeutu 31 i 46 o goed aeddfed y flwyddyn wrthbwyso 1 dunnell o garbon.
  • Mae Coed Cadw yn nodi, ar gyfartaledd, y bydd hectar o goetir llydanddail brodorol yn storio 300 i 350 tunnell o garbon dros 100 mlynedd (1,100 i 1,500 o goed yr hectar).
  • Yn seiliedig ar hyn, pe baech chi’n rhoi £500, gallai hynny ddarparu 500 i 650 o eginblanhigion i orchuddio chwarter i hanner hectar o goetir. Ar ôl 20 mlynedd, byddai hyn yn dal tua 12 i 15 tunnell o garbon y flwyddyn.
  • Gallai £500 hefyd ddarparu 3 i 5 coeden lled-aeddfed, neu 10 i 14 o goed ffrwythau – a fyddai’n dal tua 75kg i 300kg o garbon y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd.

Mae Coed Caerdydd yn plannu coed bob blwyddyn, rhwng Tachwedd a Mawrth.

Ni allwn warantu y bydd coed yn cael eu plannu mewn lleoliadau penodol, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych awgrymiadau neu os hoffech ddysgu mwy am brosiectau parhaus yn eich ardal.

Mae ardaloedd newydd ar gyfer plannu coed, gwrychoedd a choetir yn cael eu dewis yn ofalus fel rhan o’r gwaith parhaus o gynnal a datblygu canopi coed Caerdydd.

Os ydych chi’n fusnes sy’n awyddus i gyfrannu tuag at gyrraedd targedau Buddion Lles Cymunedol / gwerth cymdeithasol mewn ardal o Gaerdydd, cysylltwch â ni i drafod opsiynau.

Mae rhai o’n prosiectau blaenoriaeth parhaus o amgylch Caerdydd yn cynnwys:

  • Datblygu perllannau a gwrychoedd bwytadwy o amgylch y ddinas ac mewn ysgolion.
  • Creu gerddi o ddiddordeb tymhorol i bobl a bywyd gwyllt.
  • Disodli a phlannu coed stryd newydd.
  • Adfer a chreu gwrychoedd newydd ar hyd hawliau tramwy.

Dysgwch fwy am ein gwaith a’n cyflawniadau.

Darllenwch wybodaeth am wneud awgrymiadau plannu coed.

Darllenwch am ein cyfleoedd gwirfoddoli i gymryd rhan mewn plannu coed ac ôl-ofal.

Gallwch gyfrannu dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gredyd, hyd at £500.

Gallwch wneud rhodd drwy anfoneb drwy lenwi ein ffurflen ar gyfer rhoddion mwy, o £250. Nid oes uchafswm rhodd trwy’r opsiwn hwn.

Mae croeso i chi roi sylw gyda’ch rhodd a allai gael ei gynnwys ar ein cyfryngau cymdeithasol neu astudiaethau achos digidol.

Mae opsiwn i roi sylw yn y ffurflen rhoddion. Os ydych chi’n cyfrannu dros y ffôn, rhowch y neges yr hoffech iddi gael ei chynnwys i’r tîm. Gallwch hefyd e-bostio eich sylw atom.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiad o weithio gyda Coed Caerdydd a’n partneriaid drwy ein menter plannu coed. Os hoffech hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol, tagiwch @coedcaerdydd ac os yw hyn yn gysylltiedig â phrosiect Ardal tagiwch @ardal_procurement.

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn rhoi i’r prosiect

Diffiniadau

Cyfrannu: Rhodd ariannol i Gyngor Caerdydd (yn yr achos hwn at ddibenion cyfrannu tuag at blannu coed).

Rhoddwr: yr unigolyn sy’n gwneud rhodd ariannol i coed Caerdydd.

TAW: Treth Ar Werth

Ni: Coed Caerdydd a/neu Gyngor Caerdydd

Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni

Mae Coed Caerdydd yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’i Gyfarwyddiaeth Parciau a Hamdden.

Cyfeiriad:
Parc Gwledig Fferm y Fforest,
Heol Fferm y Fforest,
Yr Eglwys Newydd,
Caerdydd,
CF14 7JH.

E-bost: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk 
Gwefan: www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/

Cyffredinol

Os ystyrir bod unrhyw ddarpariaethau o’r telerau ac amodau hyn yn annilys neu’n anorfodadwy, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd y darpariaethau sy’n weddill.

Mae’r telerau a’r amodau hyn yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a Chyngor Caerdydd ac maent yn disodli’r holl gyfathrebiadau a chynigion eraill, boed yn electronig neu’n ysgrifenedig, rhwng defnyddiwr y wefan a Chyngor Caerdydd.

Ni ystyrir bod unrhyw fethiant gan Gyngor Caerdydd i arfer neu orfodi unrhyw un o’i hawliau o dan y telerau ac amodau hyn yn hepgor unrhyw hawliau o’r fath.

Awdurdodaeth

Mae’r telerau ac amodau a defnydd y defnyddiwr o’r wefan yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau sy’n gysylltiedig â’r wefan, unrhyw drafodion a wneir drwy’r wefan a/neu’r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Drwy gyfrannu at Coed Caerdydd rydych chi’n derbyn y telerau hyn

Trwy roi rhoddion ariannol rydych chi’n cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.

Mae telerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi

Bydd y telerau ychwanegol hyn hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’r wefan:

Gallwn wneud newidiadau i’r telerau hyn

Rydym yn diwygio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Bob tro yr hoffech wneud rhoddion, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol bryd hynny.

Gallwn wneud newidiadau i’r wefan

Gallwn ddiweddaru a newid y wefan o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau i’n prosiect.

Dibynnu ar wybodaeth ar y wefan

Darperir y cynnwys ar y wefan er gwybodaeth gyffredinol yn unig.  Ni fwriedir iddi fod yn gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y wefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau bod y cynnwys ar y wefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.

Gwneud rhodd

Drwy wneud rhodd, rydych chi’n cytuno i wneud rhodd ariannol i Gyngor Caerdydd at y diben(ion) a nodir ar y wefan o dan y Prosiect Coed Caerdydd rydych chi’n cyfrannu ato.

Bydd 100% o’ch rhodd yn mynd tuag at fentrau lleol. Ni fydd yr holl arian a roddir drwy Ardal CWB yn arwain at unrhyw gost weinyddol.

Gweler y wefan am ragor o fanylion am roi a’r hyn y bydd eich cyfraniad yn cael ei wario arno.

Dim ond deiliad/deiliaid y cyfrif y gwneir y cyfraniad ohono neu rywun sydd â chaniatâd deiliad/deiliaid y cyfrif y gwneir y cyfraniad ohono all wneud rhoddion.

Trethiant

Nid yw rhoddion yn ddarostyngedig i Dreth ar Werth (TAW).

Rhodd Cymorth

Nid yw Cyngor Caerdydd yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr.  Felly, ni fydd unrhyw gyfraniadau yn destun Rhodd Cymorth

Eich Gwybodaeth Bersonol

Mae’r holl ddata personol a gedwir gennym ni neu ar ein rhan yn cael ei gadw yn unol â Pholisi Preifatrwydd Cyngor Caerdydd.

Ad-daliadau

Os byddwch yn gwneud rhodd, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn o’r arian o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y gwnaed eich rhodd. Os oes angen ad-daliad arnoch, anfonwch e-bost at prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk a rhoi cyfeirnod eich rhodd, a fydd wedi’i gynnwys ar eich derbynneb electronig.

Gwrthod Rhoddion

Rydym yn cadw’r hawl i wrthod rhoddion a wneir sydd:

  • yn anghyfreithlon (e.e. rhoddion a wneir gan ddefnyddio enillion troseddau) neu ddim yn unol â pholisïau Cyngor Caerdydd
  • wedi’u gwneud gan rywun nad oedd ganddo, ar adeg y rhodd, y galluedd meddyliol i wneud rhodd o’r fath
  • ddim yn unol â nodau a dibenion y project, sydd i’w gweld ar y wefan

Cyfyngiad ar atebolrwydd

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol (hyd yn oed os gellir ei ragweld) boed yn seiliedig ar gontract, camwedd neu fel arall, i’r graddau llawnaf a ganiateir yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atebolrwydd am: golli data neu elw; toriadau neu oedi i’r wefan; darparu neu fethu â darparu gwasanaethau; unrhyw wybodaeth, deunydd, nwyddau a gwasanaethau a gafwyd trwy’r wefan; neu fel arall sy’n deillio o’ch defnydd o’r wefan.

Force majeure

Ni fydd Cyngor Caerdydd yn torri ei rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn, nac yn atebol i unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan am unrhyw golled neu ddifrod y gallai parti arall ei ddioddef oherwydd unrhyw achos y tu hwnt i’w reolaeth resymol. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw weithred ddwyfol, streic, anghydfod diwydiannol, gweithred terfysgaeth, gweithred neu anwaith llywodraeth neu gyrff rheoleiddio.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni i roi rhodd neu i gael rhagor o wybodaeth.

E-bost: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 029 2233 0235 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30am i 3:30pm).

Gweler ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Facebook | Youtube
Top
Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd.
Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Datganiad hygyrchedd