Cytundebau tenantiaeth newydd ar gyfer deiliaid lleiniau presennol

Rydym yn cyhoeddi cytundebau tenantiaeth newydd i bob deiliad llain rhandir ym mis Awst 2026.

Byddwn yn anfon cytundeb Docusign atoch ar gyfer pob llain sydd gennych. Rhaid i chi lofnodi a dychwelyd hwn atom ar-lein.

Dychwelwch eich cytundeb atom erbyn 30 Medi 2026. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw eich llain.

Os nad ydych eto wedi talu eich anfoneb rhandir ar gyfer 2026, ni chewch eich gwahodd yn awtomatig i adnewyddu’r denantiaeth ar gyfer y plot.

Ewch i wefan Docusign i gael gwybodaeth am lofnodi dogfennau.

Byddwn yn gwneud trefniadau eraill gyda deiliaid lleiniau nad ydynt yn defnyddio e-bost na ffôn clyfar.

Tenantiaid ar y cyd

Byddwn yn anfon cytundeb at bob cyd-denant ar e-bost. Unwaith y bydd y tenant cyntaf wedi llofnodi a dychwelyd y cytundeb, bydd y tenant nesaf yn derbyn cytundeb yn awtomatig.

Bydd y broses hon hefyd yn berthnasol i denantiaid ar y cyd sy’n rhannu’r un cyfeiriad e-bost.

Blaendaliadau

O 2 Chwefror 2027, rhaid i bob deiliad llain dalu blaendal o £5 y perc (Er enghraifft, bydd plot 5 perc yn £25).

Bydd hyn:

  • yn cael ei ychwanegu at yr anfoneb flynyddol y byddwn yn ei hanfon atoch ym mis Rhagfyr 2026, ac
  • yn cael ei ddychwelyd ar ddiwedd eich tenantiaeth, ar yr amod bod eich llain yn cael ei gynnal yn unol ag amodau’r denantiaeth.

Gweld telerau ac amodau tenantiaeth rhandir.

Gweler ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Facebook | Youtube
Top
Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd.
Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Datganiad hygyrchedd