Y Wenallt

Ynglŷn â Y Wenallt

Mae’r Wenallt (neu Coed y Wenallt) yn ardal o goetir hynafol lled naturiol tua’r gogledd o Gaerdydd, sydd wedi ei enwi yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r tir yn estyn i mewn i goetir arall tua’r gogledd orllewin: Cwm Nofydd, Gwarchodfa Natur Leol, Fforest Ganol, sy’n Safle arall o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Fforest Fawr.

Mae’r ardal yn adnabyddus yn lleol fel man hardd ac mae’n safle poblogaidd ar gyfer picnic yn yr haf. Yn y gwanwyn mae clychau’r gog a blodau eraill y gwanwyn ar daen trwy’r coetir.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parcio: Mae dau faes parcio

Nodweddion

  • Gwersyll y Wenallt: saif y gaer fryniog hon o Oes yr Haearn yn amlwg yn rhan isaf coetir y Wenallt, yn edrych dros ardal Caerdydd ac Afon Hafren. Mae’n dyddio o rhwng 800CC – 55OC, ac mae’n Heneb Restredig.
  • Llwybrau cerdded a marchogaeth: mae’r rhwydwaith o lwybrau yn croesi’r coetir ac yn cysylltu â’r llwybrau troed sydd yng Nghwm Nofydd, Fforest Ganol a Fforest Fawr.
  • Noddfa bywyd gwyllt: Mae’r coetir yn cynnwys safleoedd lleol ar gyfer cadwraeth natur a’i fioamrywiaeth yn cynnwys moch daear, bwncathod, y gnocell fraith fwyaf a theloriaid y coed.

Cyfleusterau

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Maes parcio isaf 51.5430982 / -3.2229171
Maes parcio uchaf 51.5430982 / -3.2229171

What3words: zeal.lions.gone

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd