Trefniadau Cloi’r Parc

Cefndir

Mae Adran Parciau Cyngor Caerdydd wedi lansio Ymgynghoriad Trefniadau Cloi Parciau ar gyfer Parc y Rhath, Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn ac yn gwahodd trigolion lleol i ddweud eu dweud.

Cyn y pandemig, byddai’r parciau hyn yn cael eu datgloi bob bore o 7.30am a byddai cloi yn dechrau 30 munud cyn machlud haul.  Yn y gaeaf, arweiniodd hyn at gau’r parc o 3.30pm.

Yn ystod y pandemig, ataliwyd cloi’r parciau er mwyn caniatáu mynediad dros gyfnod hwy o amser, gan helpu i gefnogi lles corfforol a meddyliol.

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, rydym yn awyddus i glywed gennych a ddylai’r parciau aros heb eu cloi neu ddychwelyd i drefniadau cloi.

A padlock

Dweud eich dweud

Ar Gau.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd