Prosiect Argae Parc y Rhath

Datblygu opsiynau i sicrhau ei effeithiolrwydd yn y dyfodol

Mae Llyn Parc y Rhath yn gronfa ddŵr gafodd ei chreu drwy osod argae i’r de a’i bwydo gan Nant Fawr. Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal Argae Parc y Rhath, sy’n eiddo cyhoeddus, ac mae archwiliadau rheolaidd yn ofynnol o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr (1975).

Canfu’r archwiliad diweddaraf ar y gronfa na fyddai gorlifan yr argae’n ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai, yn ddamcaniaethol, ddigwydd, ac felly mae angen gwelliannau.

Y diweddaraf am y prosiect

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu’r dyluniad ac yn paratoi cais cynllunio ar gyfer y gwaith arfaethedig i’r argae.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol i sicrhau eu bod yn deall y gwaith fydd ei angen.  Bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyflwyno’r cais cynllunio, er mwyn rhoi cyfle i’r gymuned a rhanddeiliaid roi adborth ar y cynigion.

Cwestiynau ac Atebion

Diweddarwyd Awst 2023.

Pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw Argae Parc y Rhath?

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal a chadw Argae Parc y Rhath, sy’n eiddo cyhoeddus, ac mae angen archwiliadau rheolaidd dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr (1975).

A fydd yn rhaid cau’r parc?

Bydd angen cau gwahanol rannau o’r parc ger yr argae yn ystod y gwaith ymchwilio i’r ddaear a’r camau adeiladu. Caiff yr holl gyfnodau y bydd yr argae ar gau eu cynllunio a rhoddir gwybod amdanynt i randdeiliaid cymunedol a thrigolion lleol ymlaen llaw.  Ceir diweddariadau rheolaidd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd. Os bydd newidiadau’n codi oherwydd amgylchiadau annisgwyl, rhoddir gwybod am y newidiadau hyn cyn gynted â phosibl.

A fydd ardal chwarae’r plant ar gau?

Ar gyfer y gwaith adeiladu yn y dyfodol, byddwn yn ceisio cadw’r parc ar agor cymaint â phosibl, ond mae’n debygol y bydd rhywfaint o waith cau yn digwydd ar yr ardal chwarae. Fel rhan o’r gwaith dylunio parhaus rydym yn adolygu’r effaith bosibl ar yr ardal chwarae.

Pryd mae’r gwaith gwella i fod i ddechrau?

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu’r dyluniad ac yn paratoi cais cynllunio ar gyfer y gwaith gwella. Bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyflwyno’r cais cynllunio. Bydd dyddiad dechrau’r gwaith adeiladu yn cael ei rannu ymlaen llaw pan fydd yn hysbys.

Faint o amser fydd y gwaith yn ei gymryd?

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, mae disgwyl i’r gwaith bara 12-18 mis.

Beth fydd yr oriau gwaith yn ystod y gwaith adeiladu?

Caiff diwrnodau ac oriau gwaith y safle eu penderfynu pan fydd contractwr yn cael ei benodi.

A fydd y gwaith yn effeithio ar oleudy Parc y Rhath?

Nid oes unrhyw waith adeiladu wedi’i gynllunio yng nghyffiniau’r goleudy. Bydd y gwaith adeiladu yn canolbwyntio ar y promenâd a’r gorlifan.

A fydd angen cau Heol Orllewinol y Llyn neu Heol Ddwyreiniol y Llyn er mwyn gwneud y gwaith?

Ar hyn o bryd, nid ydym yn rhagweld y bydd angen cau Heol Orllewinol y Llyn nac Heol Ddwyreiniol y Llyn.

A fydd angen mesurau rheoli traffig yn naill ai Heol Orllewinol y Llyn neu Heol Ddwyreiniol y Llyn wrth i’r gwaith gael ei wneud?

Mae’n debygol y bydd angen mesurau rheoli traffig ar adegau. Gan y bydd angen i draffig adeiladu a cherbydau dosbarthu fynd i mewn i’r parc a’i adael, efallai y bydd angen mesurau rheoli traffig er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y parc, y cyhoedd a staff adeiladu.

A fydd y parc yn cael ei gloi yn y nos?

Bydd mannau gwaith yn cael eu ffensio er diogelwch. Efallai y bydd angen cloi’r gatiau dros nos dros dro, ac os felly byddwn yn darparu manylion pan fyddant ar gael.

Beth allai’r effeithiau ar fywyd gwyllt a choed lleol fod?

Bydd yr effeithiau ar fywyd gwyllt a choed lleol yn cael eu lleihau cymaint â phosibl. Mae ecolegwyr eisoes wedi cynnal rhai arolygon a bydd arolygon pellach yn cael eu cynnal wrth i’r cynllun fynd rhagddo a thrwy gydol y gwaith adeiladu. Bydd cynllun rheoli amgylcheddol yn cael ei ddatblygu gan y contractwr ar gyfer y cyfnod adeiladu. Bydd mesurau lliniaru’n cael eu hystyried fel rhan o’r datblygiad dylunio; er enghraifft, caiff tramwyfa llysywod ei chynnwys yn rhan o’r gorlifan. Mae’n debygol y bydd angen gwaredu rhai coed. Os bydd unrhyw golledion coed, bydd y nifer newydd a blannir yn yr ardal leol yn fwy na’r nifer a gollir. Mae’n bosib na fydd modd ail-blannu coed yn eu lleoliad gwreiddiol oherwydd y cynnydd yn ôl troed y gorlifan a gofynion diogelwch yr argae.

A fydd y gwaith yn golygu bod uchder y dŵr yn y llyn yn cynyddu?

Nid oes bwriad i newid lefel na maint presennol y llyn. Mae lefel y dŵr yn cael ei osod gan y gored. Bydd cyfnodau sych hir yn peri i’r lefel ostwng; bydd glaw trwm a stormydd yn gwneud iddi godi.

A fydd ansawdd y dŵr yn cael ei brofi ar gyfer iechyd a diogelwch?

Bydd profion dŵr yn cael eu cynnal yn ystod y cam adeiladu at ddibenion iechyd a diogelwch ac ar gyfer diogelwch amgylcheddol a rheoli llygredd.

A fydd y dirwedd yn newid o ganlyniad i’r gwaith?

Y bwriad yw gwneud cyn lleied o newidiadau â phosibl i’r dirwedd.

A fydd unrhyw welliannau i fioamrywiaeth lleol?

Gweithredir mesurau lliniaru ar gyfer unrhyw fioamrywiaeth pwysig y terfir arni. Nid yw gwelliannau posibl wedi’u trafod eto.

Pa led a hyd fydd y gorlifan newydd?

Am fanylion dyluniad arfaethedig y gorlifan, gweler ein deunydd ymgysylltu diweddaraf.

A gaiff uchder yr argae ei chodi?

Nid ydym yn bwriadu codi uchder yr argae.

A fydd yr argae yn cael ei wneud yn ehangach?

Nid ydym yn bwriadu gwneud yr argae yn ehangach na newid ei siâp cyffredinol.

Sut a phryd yr ymgysylltir â chymunedau lleol a rhanddeiliaid?

Cynhaliwyd cam cyntaf o ymgysylltu ym mis Hydref 2021 a dyma gyflwyno’r cynllun i’r gymuned cyn i’r gwaith ymchwilio tir ddigwydd ym mis Tachwedd 2021.

Cynhaliwyd ail gam ymgysylltu ym mis Rhagfyr 2022 a dyma gyflwyno’r opsiwn a ffefrir i’r gymuned. Gellir gweld deunydd o’r ymgysylltiad hwn ar-lein.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol i sicrhau eu bod yn deall y gwaith fydd ei angen. Bydd ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyflwyno’r cais cynllunio, er mwyn rhoi cyfle i’r gymuned a rhanddeiliaid roi adborth ar y cynigion.

Sut bydd y gymuned a rhanddeiliaid yn cael adborth ac yn cael gwybod am gynnydd y prosiect?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych angen mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â thîm y prosiect dros y ffôn, 02920 130 061, neu e-bostiwch roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk

Bydd diweddariadau’n cael eu cyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd a’r wefan hon, yn ogystal â chyhoeddi cylchlythyr diweddariadau i’r rhai sy’n byw yn agos at y safle.

Pwy yr ymgynghorir â nhw am y prosiect?

Rydym wedi cynnal ymarfer mapio rhanddeiliaid helaeth sy’n nodi rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned y dylid ymgysylltu â nhw.

Mae parth ymgynghori graidd wedi’i ddiffinio gyda 4831 o aelwydydd a 59 o fusnesau ar y strydoedd o amgylch Parc y Rhath a’r tir hamdden.

Mae Grasshopper Communications yn arwain ymgysylltiadau â rhanddeiliaid rhanbarthol a lleol gan gynnwys y sectorau canlynol: treftadaeth, hamdden ac awyr agored, ffydd, gwasanaethau cyhoeddus, cyfleustodau a seilwaith, yr amgylchedd a chynaliadwyedd, twristiaeth a datblygu economaidd, addysg bellach a phrifysgolion, trafnidiaeth, busnesau lleol, cyfleusterau cymunedol, ysgolion, grwpiau cymunedol a chydraddoldeb.

Mae Cyngor Caerdydd yn arwain ymgysylltiadau â rhanddeiliaid gwleidyddol gan gynnwys Aelodau Senedd y DU, Aelodau Senedd Cymru a chynghorwyr wardiau.

Defnyddir datganiadau i’r wasg, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a phosteri yn y parc i hysbysu cymuned ehangach Caerdydd a’r tu hwnt.

Sut caiff barn y gymuned a rhanddeiliaid ei hystyried?

Rydym yn croesawu adborth am y prosiect a byddwn yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n codi. Bydd yr adborth a gyflwynir yn cael ei ystyried cyn cyflwyno’r caniatâd cynllunio.

A fyddwch yn cynnal ymyl y llyn fel rhan o’r gwaith?

Nid yw hyn yng nghylch gwaith y prosiect. Os hoffech drafod cynnal a chadw’r parc anfonwch e-bost atom yn parciau@caerdydd.gov.uk.

A fydd ochrau cerrig y nant sydd i’r de o’r gorlifan yn cael eu cynnal fel rhan o’r gwaith?

Gellir gwneud atgyweiriadau o amgylch pen isaf y gorlifan tuag at y cwrs dŵr naturiol. Mae unrhyw beth pellach i lawr yr afon o’r pwynt hwn y tu allan i gylch gwaith y cynllun hwn.

A fydd y gwaith yn cynnwys llusgrwydo ymhellach i lawr yr afon ger Gerddi Waterloo?

Nid oes unrhyw gynlluniau i wneud hyn fel rhan o’r cynllun hwn.

A fydd gwaith yn cael ei wneud i fyny’r afon o’r llyn neu ar y gorlifan?

Nid yw cyfleoedd i deneuo llifau i fyny’r afon wedi profi’n addas ac nid ydynt yn cael eu datblygu.

A fydd perygl llifogydd yn yr ardal yn cael ei effeithio gan y gwaith arfaethedig?

Prif nod y cynllun yw gwneud y gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod llifogydd eithafol yn cael pasio drwy’r argae’n ddiogel. Mae’n canolbwyntio ar ddiogelwch yr argae a’r boblogaeth i lawr yr afon, a’r cwmpas yw peidio â lleihau’r risg o lifogydd i lawr yr afon.

Yn rhan o’r cais cynllunio, bydd angen llunio Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (AGLl). Yn rhan o broses ymgeisio’r AGLl, bydd angen i nid ddangos y byddem yn gallu rheoli unrhyw effeithiau ar lifogydd i lawr yr afon o ganlyniad i waith gwella’r argae. Mae’r dyluniad yn cael ei ddatblygu yn unol â gofynion TAN15, sef nodyn cyngor technegol y Llywodraeth ar gyfer datblygu a pherygl o lifogydd.

Beth yw’r effeithiau ar y cronfeydd dŵr i fyny’r afon (h.y. Llanisien a Llys-faen)?

Mae cronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen yn gronfeydd nad ydynt yn cronni ac ni fydd y gwaith yn effeithio arnynt.

Beth yw effeithiau hirdymor y newid yn yr hinsawdd yn yr ardal?

Bydd y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar lifogydd yng Nghymru.  Mae stormydd yn debygol o ddigwydd yn amlach ac o fod yn fwy difrifol, a fyddai’n gofyn i orlifan yr argae pasio llifogydd eithafol yn ddiogel.

A yw’r argae yn strwythurol ddiogel?

Ydy, nid oes unrhyw bryderon ynghylch sefydlogrwydd yr argae.

Ble mae ffynhonnell Nant Fawr a ble mae’n dod i ben?

Mae Nant Fawr yn dechrau ychydig i’r gogledd o’r M4 uwchben Caerdydd ac yn llifo i Nant Lleucu, yna i mewn i Afon Rhymni, cyn llifo i Aber Afon Hafren.

Beth yw Deddf Cronfeydd Dŵr (1975)?

Rheoleiddir cronfeydd dŵr yng Nghymru a Lloegr dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr (1975), a orfodir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn bodoli i ddiogelu’r cyhoedd trwy leihau’r risg o ddŵr yn cael ei ryddhau heb reolaeth o gronfeydd dŵr mawr, wedi’u codi a’r llifogydd peryglus y gall hyn eu hachosi.

Pam mae angen i ni reoli perygl llifogydd a diogelwch argaeau?

Mae Parc y Rhath yn fan cyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth. Mae gwneud gwaith gwella yn sicrhau diogelwch yr argae ac yn lleihau’r perygl o lifogydd o doriad heb reolaeth. Bydd rheoli perygl llifogydd yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol, gan ddiogelu bywydau a bywoliaethau o ganlyniad, a sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel.

Pwy sy’n gyfrifol am reoli diogelwch yr argae?

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r argae ac mae’n ofynnol iddo ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o’r argae a’r gorlifan (o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975).

Beth fydd yn digwydd os na fydd y gwaith gwella i’r argae yn cael ei wneud?

Diben y gwaith yw gwella gallu’r gronfa ddŵr i hwyluso llif diogel dŵr llifogydd trwyddi ac atal dŵr rhag cael ei ryddhau heb reolaeth a allai beryglu’r rheiny i lawr yr afon. Os na wneir y gwaith, mewn digwyddiad llifogydd eithafol gallai fod difrod i’r argae gan achosi i ddŵr y llyn gael ei ryddhau a hefyd lifogydd sylweddol cynyddol mewn ardaloedd i lawr yr afon.

A ddyluniwyd Llyn Parc y Rhath i’w defnyddio ar gyfer dŵr yfed?

Adeiladwyd y gronfa ddŵr i fod yn amwynder, nid ar gyfer cyflenwad dŵr, ac nid yw’r dŵr erioed wedi’i dynnu ohoni at ddiben yfed.

Cadw mewn cysylltiad

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y prosiect neu os hoffech dderbyn diweddariadau rheolaidd amdano, cysylltwch â thîm y prosiect ar y ffôn, 02920 130 061, neu dros e-bost roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk

Roath park

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd