Parc Tredelerch

Ynglŷn â Parc Tredelerch

Mae Parc Tredelerch yn amgylchedd gwych i bobl sy’n hoffi natur, gwylwyr adar a cherddwyr brwd i’w fwynhau. Wedi’i leoli o amgylch llyn sy’n cwmpasu 40,000 metr sgwâr, gall ymwelwyr archwilio rhwydwaith 2km o lwybrau a mwynhau llwybr pren sy’n mynd ar draws y llyn. Mae wedi cael ei drawsnewid dros yr 20 mlynedd diwethaf yn ofod hardd gydag amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer adar a mamaliaid.  Mae’r rhain yn cynnwys coetir brodorol, prysgwydd, dôl, cyrs a phyllau.

Mae Parc Tredelerch yn un o barciau Baner Werdd Caerdydd .

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parcio

Mae’r maes parcio ar gael drwy Ffordd Lamby. Mae’n ardal fach wedi’i tharmacio gyda lle ar gyfer tua 20 o gerbydau.

Sylwch fod rhwystr uwchben yn y maes parcio gyda chyfyngiad uchder o 1.95m.

Nodweddion

  • Llyn a gwlyptiroedd

Mae’r llyn mawr wedi’i amgylchynu gan lwybr llwch cerrig a gallwch hefyd gerdded ar ei draws trwy’r llwybr pren.  Mae’n boblogaidd gyda gwylwyr adar a physgotwyr.  Ymhlith yr adar mwy cyffredin, gallwch weld Glas y Dorlan, Hwyaden Gopog, y Fulfran, Gwyach Fawr Gopog a mwy ar y llyn.

  • Byffer coed

Plannwyd yr ardal hon o’r parc â choed dros 20 mlynedd yn ôl pan grëwyd y parc gyntaf.  Ar wahân i hyn mae nifer o goedlannau o amgylch ochr ddeheuol y llyn. Plannwyd y coedlannau hyn gan grwpiau teuluol o wahanol genedlaethau o’r ardal leol, Tredelerch yn bennaf, fel etifeddiaeth deuluol.

  • Dôl Gwlyptir

Pan sefydlwyd y llyn gyntaf, roedd yr ardal o amgylch y llyn wedi’i orchuddio â phridd clai trwm.  Oherwydd hyn, mae’n cadw dŵr ac wedi cael ei orchuddio â glaswellt cors hunan-hau. Mae’n cynnig cynefin i Deloriaid y Gors a Breision ymhlith adar eraill a mamaliaid bach. Mae yna hefyd sawl poblogaeth o degeirianau gwyllt yn ardal y gwlyptir.

  • Gorlifdir

Dargyfeiriwyd y darn hwn o afon Rhymni pan adeiladwyd y drosffordd. Mae’r gorlifdir cyfagos yn cael llifogydd o bryd i’w gilydd.  Mae hwn yn enghraifft wych o gynefin aber, system arfordirol unigryw lle mae dŵr croyw o’r afon yn cwrdd â dŵr hallt o’r môr.  Mae’r rhan hon o’r parc yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fflora a Ffawna

Mae’r safle yn gartref i’r Gardwenynen, un o’r cacwn mwyaf prin a dan fygythiad yn y DU.

Ymhlith y planhigion o ddiddordeb arbennig mae tegeirianau cors a thegeirianau gwenynog.

Mae yna lawer o adar diddorol i edrych allan amdanynt, gan gynnwys:

  • Nico
  • Y Wyach Leiaf
  • Gwyach Fawr Gopog
  • Telor y Gors
  • Bras y Gors
  • Gïach
  • Hwyaden Gopog
  • Y Fulfran
  • Glas y Dorlan

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Maes parcio Ffordd Lamby 51.49890, -3.12628

What3words: ///found.clips.demand

Darganfod y parc

Gweler ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Facebook | Youtube
Top
Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd.
Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Datganiad hygyrchedd