Mae 33 nodwedd cyffrous i blant eu mwynhau ym Mhad Sblasio Parc Fictoria, lle’r oedd padlo’r parc gynt. Mae’r nodweddion yn cynnwys:
- chwistrelli
- ffrydiau dŵr
- bwced arllwys dŵr
- twnel
Mae’r rhain mewn tair ardal ar gyfer:
- plant bach,
- plant iau,
- teuluoedd
Mae hyn o gyd o fewn safle prydferth y parc gradd 2 rhestredig.
Cafodd y Pad Sblasio ei ddylunio a’i adeiladu gan arbenigwyr Ustigate Waterplay Ltd. a bydd yn rhoi mwy o hygyrchedd a mwynhad i blant o bob oed.
Ni fydd y Splashpad ar agor yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw.
Mae’r sesiynau hamddenol hyn wedi’u cynllunio ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd.
Mae’r sesiynau hyn am ddim, ond mae’n rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw. Mae hyn yn ein helpu ni i reoli niferoedd a darparu amgylchedd mwy hamddenol, llai prysur i bawb.
Trefnwch sesiwn hamddenol yn y Pad Sblasio ym Mharc Fictoria.