Parc Cefn Onn

Ynglŷn â Parc Cefn Onn

Mae’r parc hanesyddol gradd 2 hwn, sydd ar ymylon gogleddol Caerdydd hefyd yn barc gwledig sy’n rhoi mynediad at rwydwaith llwybrau troed Mynydd Caerffili. Mae’n cynnwys casgliad hynod o goed cynhenid ac egsotig mewn dyffryn clos. Caiff ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd trawiadol a’r awyrgylch braf, llonydd.

Yn wreiddiol gosodwyd rhan uchaf y parc tua chanrif yn ôl, gan y perchennog, Ernest Prosser, Cyfarwyddwr Rheilffordd Cwm Rhymni oedd gerllaw. Mae ei nentydd a llwybrau troellog yn dilyn y cwm ysgafn lle llifa’r Nant Fawr.

Mae’r nentydd, pyllau, coetir a phlanhigion eraill yn gwneud hon yn noddfa ar gyfer bywyd gwyllt. Mae ymwelwyr yn dychwelyd yn rheolaidd i fwynhau’r parc mewn gwahanol dymhorau.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor o 7am tan 30 munud cyn y machlud.

Parcio ar gael ar y safle.

Nodweddion

  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2: Mae’r parc ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Gardd Goetir: gosodwyd ar ôl 1944 yn rhan ddeheuol y safle
  • Y Dingle: yr ardd hanesyddol a osodwyd gan Ernest Prosser; Mae’r rhan hon yn cynnwys casgliad o blanhigion prin ac egsotig (ar gau i’r cyhoedd am 4 mis o 4 Chwefror 2019).
  • Tŷ haf a’r hen bwll nofio: Mae’r pwll a’r tŷ haf yn nodweddion cynnar y Dingle, a godwyd i leddfu symptomau’r diciâu a oedd ar fab Prosser, Cecil.
  • Coed Transh yr Hebog: coetir Derw a Bedw hanner naturiol tua’r gogledd o’r tir parc mwy ffurfiol yn agos at gopa mynydd Caerffili.
  • Murlun celf: yn y danffordd ym mynediad y parc, yn adrodd hanes y parc.
  • Arddangosiadau’r gwanwyn: mae’r parc yn werth ei weld trwy’r gwanwyn a’r lloriau blodeuog o fylbiau’r gwanwyn a’r camelia, y rhododendron a’r asalea.
  • Lliwiau’r hydref: mae’r casgliad o goed a’r llwyni’n cynnig arddangosiad cyfoethog a lliwgar yn yr hydref.

Cyfleusterau

  • Llwybr Fforio Bywyd Gwyllt: i blant – (lawrlwythwch daflen)
  • 12 O Weithgareddau I Blant Ym Mharc Cefn Onn (lawrlwythwch daflen)
  • Llwybrau wedi eu marcio: trwy’r parc, yn cysylltu â llwybrau cerdded yn y wlad o’i gwmpas.
  • Cysylltiadau llwybrau troed: i lwybr cerdded Cefnffordd Caerffili
  • Cyfleoedd Gwirfoddoli: Mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid Parc Cymunedol yn trefnu dyddiau gwaith a gweithgareddau eraill yn y parc mewn cydweithrediad â Chyfeillion Cefn Onn .

Llogi sgwter ym Mharc Cefn Onn

Rydym wedi ymuno â Countryside Mobility, i ddarparu 2 sgwter symudedd awyr agored ym Mharc Cefn Onn. Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, bydd y sgwteri hyn yn gwneud y parc yn fwy hygyrch.

Mae 2 sgwter ar gael i’w llogi. Bydd angen i chi archebu a thalu ymlaen llaw drwy ffonio 029 2233 0243, 8:30am i 4:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gyda 2 lwybr ar gael drwy’r parc, gallwch wneud dolen lawn mewn awr. Os yw’n well gennych chi gyflymder mwy hamddenol, rydym yn argymell cymryd o leiaf 2 awr.

I logi sgwter Tramper, bydd angen i chi ymaelodi gyda Countryside Mobility.

Bydd angen i chi ddewis un o’r opsiynau canlynol, a thalu ffi llogi o £2.50 yr awr:

  • Defnydd untro – £3
  • 2 wythnos – £5
  • 12 mis (delfrydol ar gyfer ymweliadau mynych â’r parc a lleoliadau eraill Countryside Mobility).

Gellir defnyddio’r aelodaeth yn yr holl leoliadau Countryside Mobility eraill, a bydd yn dod i ben ar ôl ei ddyddiad gorffen.

Rydym yn argymell darllen yr amodau llogi sgwter ymlaen llaw. Bydd hyn yn arbed amser i chi wrth gofrestru ar gyfer aelodaeth.

Bydd sesiwn hyfforddi o hyd at 15 munud, i sicrhau y gallwch ddefnyddio’r sgwter yn gyfforddus ac yn ddiogel. Bydd angen i chi dalu blaendal ymlaen llaw.

Gallwch logi sgwter symudedd Tramper rhwng 10am a 2:30pm ar ddiwrnodau penodol yn unig:

2024

  • Dydd Mercher 14 Chwefror
  • Dydd Mercher 21 Chwefror
  • Dydd Sadwrn 2 Mawrth
  • Dydd Mercher 6 Mawrth
  • Dydd Mercher 13 Mawrth
  • Dydd Sadwrn 23 Mawrth
  • Dydd Mercher 3 Ebrill
  • Dydd Sadwrn 13 Ebrill
  • Dydd Mercher 17 Ebrill
  • Dydd Sadwrn 27 Ebrill
  • Dydd Mercher 1 Mai

Mwy o ddyddiadau i’w cyhoeddi.

Person travelling through a forest using a tramper vehicle
Person going up steep hill in a tramper vehicle
Example showing what the tramper looks like
Countryside mobility logo
Lottery Heritage fund logo

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Prif fynedfa 51.5460242 / -3.1883328

What3words: united.lend.tuck

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd