Parc Cathays (Canolfan Ddinesig Caerdydd)

Ynglŷn â Parc Cathays

Roedd Parc Cathays yn rhan o diroedd Castell Caerdydd o’r blaen, a chafodd ei droi’n Ganolfan Ddinesig Caerdydd yn gynnar yn yr 20fed Ganrif .

Mae ei barciau ffurfiol o safon uchel yn cynnwys Gerddi Alexandra, cartref Cofeb Rhyfel Genedlaethol Cymru, Gerddi’r Orsedd a Gerddi’r Brodordy. Mae’r gerddi yn lleoliad trawiadol i nifer o adeiladau mawreddog, yn cynnwys Neuadd y Ddinas , Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae’r mannau agored hanesyddol llawn cymeriad yn bwysig iawn i ddelwedd y ddinas ac maent yn cynnal eu cynllun gwreiddiol o’r Oes Edwardaidd.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Nid oes tai bach cyhoeddus ym Mharc Cathays.

Nodweddion

  • Caeau’r Canmlwyddiant: Mae Gerddi Alexandra wedi eu datgan yn Gaeau’r Canmlwyddiant i’w cadw mewn ymddiriedolaeth ar y cyd gyda â Fields In Trust fel rhan o’u hymgyrch canmlwyddiant i gadw parciau a mannau gwyrdd lle mae cofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 1: Ynghyd â Chastell Caerdydd, mae’r parc yn Radd 1 ar restr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Gerddi Alexandra: Cofeb Rhyfel Genedlaethol Cymru, sydd yng nghanol yr ardd ffurfiol hon ydy ffocws Seremoni Goffau flynyddol Caerdydd ym mis Tachwedd. Mae cofebau eraill yn yr ardd i goffau rhyfeloedd mwy diweddar
  • Gerddi’r Orsedd: Codwyd cerrig yr Orsedd ar gyfer Eisteddfod 1899 ym Mharc Cathays. Mae cerfluniau pobl leol amlwg, yn bennaf gan y cerflunydd o Gaerdydd, Syr William Goscombe John, yn cydnabod eu cyfraniad at ddatblygu Caerdydd fel dinas.
  • Gerddi’r Brodordy: Mae’r ardd fechan, ffurfiol hon sydd ar gynllun ‘parterre’ traddodiadol yn noddfa braf rhag y traffig o’i chwmpas. Caiff yr enw ar ôl Brodordy Ffransisgaidd y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd, a safai gerllaw.

Cyfleusterau

  • Cofeb Rhyfel Genedlaethol Cymru (Gerddi Alexandra)
  • Mae ciosg lluniaeth yng Ngerddi’r Orsedd

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Gerddi Alexandra 51.4865994,-3.1826733
Gerddi’r Orsedd 51.485091,-3.177523
Gerddi’r Brodordy 51.4833513,-3.1795689

What3words: reduce.survey.cabin

Darganfod y parc

Cathays Park
Cathays Park
Cathays Park
Cathays Park

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd