Llys Insole

Ynglŷn â Llys Insole

Mae’r ardd unigryw gradd 2 hon yn cynnwys ystod drawiadol o addurniadau ac mae’n rhan o dir plasty Llys Insole .

Daeth y tŷ a’r gerddi i feddiant Cyngor Caerdydd ym 1932 fel rhan o’r tir yr oedd ei angen i adeiladu Western Avenue. Yn 2011, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Llys Insole i gadw a diogelu’r eiddo a ailagorwyd yn 2016 yn dilyn adnewyddu a ariannwyd gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r Ymddiriedolaeth nawr yn rheoli’r adeiladau ond cyfrifoldeb y Gwasanaethau Parciau yw’r tiroedd o hyd.

Gwybodaeth i ymwelwyr

7.30am – 30 munud cyn y machlud.

Parcio: Ar gael ar y safle.

Nodweddion

Insole Court Community Garden
  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2*: Mae’r parc ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Plasty Llys Insole: codwyd gan James Harvey Insole, aelod amlwg o deulu Insoile, y cludwyr glo, perchnogion pyllau, gwŷr rheilffordd a dociau. Mae llawr gwaelod y tŷ nawr ar agor i ymwelwyr.
  • Mae’r Tŷ yn Llwyfan: mae arddangosfa barhaol nawr ar agor yn y tŷ
  • Bloc stablau hanesyddol: bellach wedi ei adfer yn Ganolfan Ymwelwyr gydag oriel ac ystafelloedd cymunedol.
  • Gardd hanesyddol: o amgylch y tŷ, bu unwaith yn gartref i gasgliad hesg duon a gellesg Violet Insole, ond mae’r rhain wedi mynd ar y cyfan.
  • Gwaith creigiau artiffisial ‘Pulhamite’: nodwedd anarferol yn yr ardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.‘

Cyfleusterau

  • Cyfleoedd gwirfoddoli Mae Ymddiriedolaeth Llys Insole yn trefnu tywyswyr gwirfoddol a digwyddiadau a gweithgareddau eraill yn y tŷ a’r tiroedd.
  • Mae Caffi’r Potting Shed ar agor 7 niwrnod yr wythnos am frecinio, cinio a the bach.
  • Mae’r Ymddiriedolaeth yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd – ceir y manylion ar eu gwefan .
  • Mae ystafelloedd ar gael i’w llogi ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau corfforaethol a chymunedol
  • Mae toiledau cyhoeddus a chyfleusterau newid cewynnau ar gael ar y safle

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Prif fynedfa 51.4917143,-3.2273646

What3words: escape.twins.bolts

Darganfod y parc

Insole Court Stable Yard
Insole Court South Gardens
Insole Court Gardens with people
Insole Court House Front
Insole Court Gardens

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd