Gwarchodfa Natur Leol Howardian

Ynglŷn â Gwarchodfa Natur Leol Howardian

Mae’r hen safle tirlenwi hwn wedi ei ddatblygu’n noddfa bywyd gwyllt mewn partneriaeth â grwpiau lleol. Mae hen gynefin y foryd yn brif nodwedd yn y Warchodfa ond mae’r safle 13 hectar (32 erw) hefyd yn cynnwys coetir, dôl, gwlyptir a phyllau, sy’n gartrefi i dros 500 rhywogaeth bywyd gwyllt.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parcio ar gael ar y strydoedd o amgylch y parc.

Nodweddion

  • Datganwyd yn Warchodfa Natur Leol ym 1991.
  • Cyfleoedd gwirfoddoli Mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid Parc Cymunedol yn trefnu dyddiau gwaith a gweithgareddau eraill yn y parc mewn cydweithrediad â Chyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Howardian
  • Ardaloedd dŵr yn cynnwys pyllau, gwlyptir a phantiau dŵr lle gellir gweld crehyrod glas, gleision y dorlan, teloriaid yr hesg a geifr y gors.
  • Dolydd a glaswelltir yn cynnwys tegeirianau gwenynog, dwysflodeuog, llydanwyrdd a thegeirianau cors y de.
  • Mae’r coetir yn gynefin i adar yn nythu a phathewod
  • Mae Gweunllwg Silwraidd wedi ymddangos mewn rhannau o’r safle, y lle mwyaf deheuol yng Nghymru y gwelir hwn.
  • Llwybr Fforio Bywyd Gwyllt: i blant – (lawrlwythwch daflen)
  • Llwybr Natur: mae criw’r Cyfeillion wedi cynhyrchu llwybr tywys .
  • Mynediad i gerddwyr yn unig sydd i’r warchodfa. Mae maes parcio i geir ar y stryd ger y mynedfeydd.

 

Nid oes toiledau cyhoeddus yng Ngwarchodfa Natur Leol Howardian.

Cyfleusterau

  • Rhwydwaith llwybrau troed eang yn bennaf â llwch cerrig neu laswellt / tir moel.
  • Cyfleoedd Gwirfoddoli Mae Cyfeillion Gwarchodfa Leol Howardian
    yn trefnu dyddiau gwaith a gweithgareddau eraill.
  • Mynediad i gerddwyr yn unig sydd i’r warchodfa. Mae maes parcio i geir ar y stryd ger y mynedfeydd.
  • Llwybr Natur: mae criw’r Cyfeillion wedi cynhyrchu llwybr tywys .Nid oes toiledau cyhoeddus yng Ngwarchodfa Natur Leol Howardian.

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Mynediad Hammond Way 51.500416, -3.148214
Mynedfeydd Ipswich Road 51.501244, -3.144888

What3words: going.living.assist

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd