Caeau Llandaf

Ynglŷn â Caeau Llandaf

Mae Caeau Llandaf yn rhan o rwydwaith eang o dir parc gradd 2 sy’n estyn o ganol y ddinas tua’r gogledd ar ddwy ochr Afon Taf.

Aeth y caeau i feddiant Corfforaeth Caerdydd ym 1898 fel caeau chwarae, a dyma un o diroedd hamdden cyhoeddus cynharaf y ddinas.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mae’r tir parc ar agor i’r cyhoedd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Parcio: Mae parcio talu ac arddangos yng Nghaeau Llandaf. Mae’r maes parcio ar agor o 7.30am tan 30 munud cyn y machlud.

Nodweddion

  • Parc hanesyddol rhestredig Gradd 2: Mae’r parc ar Gofrestr Cadw o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
  • Mae rhodfeydd coed gyda choed aeddfed yn croesi’r safle
  • Mae’r hen lawnt fowlio nawr yn gartref i Glwb Croquet Llandaf

Cyfleusterau

  • Toiledau a chiosg lluniaeth: ar agor trwy’r flwyddyn
  • Caeau chwaraeon: cysylltwch â’r Gwasanaethau Parciau i archebu cae chwaraeon.
  • Man chwarae i blant: addas i blant 3-14 oed
  • Cyrtiau tenis: ar agor trwy’r flwyddyn – heb gost

Sut i ddod o hyd i ni

Dod o hyd i ni
Pwynt mynediad GPS (lledred / hydred)
Mynedfa’r prif faes parcio 51.489372 / 3.2039766

What3words: noisy.dusty.facing

Darganfod y parc

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd