Taith Taf

Mae Taith Taf yn rhedeg am 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu ar hyd cymysgedd o lwybrau glan yr afon, llwybrau rheilffordd a ffyrdd coedwig.

Yng Nghaerdydd, mae Taith Taf yn cychwyn ym Mae Caerdydd ac yn dilyn yr afon drwy Grangetown, Gerddi Sophia, Caeau Pontcanna, Parc Hailey, Fferm y Fforest i Dongwynlais ger Castell Coch. Mae’r Daith yn dod i ben yn Aberhonddu.

Dim ond taith fer i ffwrdd ac rydych chi’n cael eich cludo o Gaerdydd gosmopolitan i hafan cefn gwlad. Beiciwch wyth milltir gymharol dyner ar hyd coridor Afon Taf, i wlad o goredau bywiog sy’n llawn bywyd gwyllt, cefnlenni mynyddig trawiadol a Chastell Coch hardd wedi’i leoli ar ochr y mynydd. Ar y llwybr, mae digon o leoedd hardd i stopio a chael picnic cyn cyrraedd tref treftadaeth ddiwydiannol Pontypridd. Yma fe welwch amgueddfa, hen bont hanesyddol a Pharc Coffa Tawel Ynysangharad. Yn ôl ar y llwybr, ewch i Ferthyr Tudful, tref a adeiladwyd ar haearn a glo, ac sy’n gartref i Gastell godidog Cyfarthfa. Ewch i amgueddfa ac oriel gelf y Castell cyn dringo’n raddol i fyny Bwlch Torpantau lle byddwch yn darganfod hen Reilffordd Merthyr. Ewch ymlaen i Aberhonddu drwy dirweddau mynydd perffaith, rhaeadrau mawreddog a chronfeydd dŵr clir crisial, cyn cyrraedd tref Aberhonddu – cartref i Gadeirlan, digon o lefydd i fwyta ac yfed, a siopau braf i bori ynddynt.

Ar hyd y llwybr, mae digon o gyfleoedd i stopio i gael picnic wrth fwynhau’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cerdded a beicio gyda chysylltiadau â siopau a chaffis lleol ar hyd y ffordd.

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau a’r map (8mb)

Mae’r Crëyr Glas, Mulfrain, y Siglen Lwyd a Glas-y-dorlan ymhlith yr adar sy’n byw gerllaw’r llwybr. Mae dyfrgwn hefyd wedi ymgartrefu ar yr afon. Yn ystod yr hydref, gallwch weithiau weld yr eog yn neidio i fyny’r afon wrth y coredau.

Edrychwch ar y llwybr ar www.sustrans.org.uk gyfer Llwybr Rhif 8 Taith Taf. Yna gallwch benderfynu ar yr opsiwn gorau i chi gyrraedd yno gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ar droed neu feicio.

Next Bike – Os nad oes gennych feic, mae digon o stondinau Next Bike i grwydro rhan Caerdydd o’r llwybr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich beic i leoliad dynodedig pan fyddwch wedi gorffen.

Taff Valley Cycle Trail
Forest along the Taff Trail
Taff trail cycling

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd