Taith Gylchol Pentyrch – Creigiau

Mae’r Daith Gylchol hon yn cynnwys sawl allt serth, camfa bren, gatiau mochyn, a rhai grisiau. Hefyd mae rhannau o’r daith ar hyd y briffordd ac mae dwy ffordd i’w croesi – dylid bod yn ofalus yn y mannau hyn. Ceir marcwyr ffordd gyda bandiau lliw coch ar hyd y llwybr i gerddwyr eu dilyn.

Bydd y llwybr yn cymryd rhwng 1 awr a 1½ awr i’w gwblhau. Mae’r llwybr cyfan yn 2.59 milltir (4.16 cilometr) o hyd.

Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau a’r map

Mae coetir Craig-y-Parc yn ardal o goetir ffawydd lled-naturiol. Ailblannwyd rhannau mawr o’r coetir hynafol gyda Ffawydd newydd a sbesimenau conifferaidd (neu goed); fodd bynnag, parheir i ganfod planhigion sy’n arwydd o goetir hynafol. Mae’r rhain yn cynnwys: Garlleg Gwyllt (Craf y Geifr), Blodau’r Gwynt, Cnau Daear, Marddanhadlen Felen, Bresych y Cŵn a charped hardd o Glychau’r Gog yn y gwanwyn. Mae’r coetir hefyd yn gartref i lawer o rywogaethau o adar megis y Telor Penddu, y Dryw Eurben, y Dringwr Bach, y Gnocell Werdd, y Bwncath a’r Dylluan Frech.

Parc-y-Justice

Mae’r cyfeiriad cyntaf at dŷ Parc-y-Justice yn dyddio’n ôl i tua’r 1530au pan yr oedd yno lys ynadon. Yma y câi cyfrifon ariannol eu cludo i gael eu cymeradwyo gan yr Ynad Heddwch, ac y llofnodwyd amryw warantau er mwyn arestio drwgweithredwyr.

Yn 1791, cafwyd digwyddiad erchyll pan grogwyd Catharine Griffith, cyn-forwyn yn y Parc, a’i gŵr, Henry James, am dorri i mewn i Barc-y-Justice a dwyn celfi arian. Tua saith mlynedd cyn y digwyddiad hwn, roedd Catharine, ar adegau gyda’i gŵr Henry neu gyd-droseddwr arall, yn teithio o amgylch y wlad yn dwyn symiau bach o eitemau. Yn y pen draw, arweiniodd yr ymddygiad hwn at eu dienyddio. Catharine, a oedd tua 31 mlwydd oed, oedd y ddynes olaf i gael ei chrogi’n gyhoeddus yng Nghymru.

Creigiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Ym mis Gorffennaf 1942 yn ystod yr Ail Ryfel Byd, disgynnodd bomiau ar Heol Pant-y-Gored. Gwelwyd fod tŷ ‘Woodlands’ ar dân ac erbyn y bore yr oedd yn gragen a oedd yn dal i fudlosgi. Ceisiodd cymdogion achub dodrefn o’r tŷ wrth gynnig eu cydymdeimlad â’r perchennog, Mrs. Davies. Mae’r tŷ, yn awr wedi ei atgyweirio, yn dal i sefyll ar Heol Pant-y-Gored.

Er gwaethaf y rhyfel a barodd am chwe blynedd, roedd Creigiau yn hafan o heddwch yn ystod y cyfnod hwn. Daliai teuluoedd y trên i fynd i Ynys y Barri ac roedd yn beth cyfarwydd iawn gweld llif cyson o bobl yn cerdded o Bentyrch i’r Creigiau i fwynhau’r haul. Dechreuwyd teimlo realiti’r rhyfel pan gychwynnodd  trenau ysbyty ddod i mewn i Orsaf Creigiau. Roedd ugeiniau o ambiwlansys cuddliw yn ciwio i gludo milwyr Americanaidd a glwyfwyd, i gael triniaeth yn Ysbyty Milwrol yr Unol Daleithiau a sefydlwyd yn Rhydlafar. Wrth i’r milwyr Americanaidd setlo i mewn i’r gymuned, daethant ag adloniant a cherddoriaeth fyw gyda hwy, a rhannu eu dyraniadau o gwrw, siocled a sigaréts gyda phobl leol.

 

Treftadaeth Ddiwydiannol Pentyrch

Haearn

Trwy Geunant y Taf y teithiai’r rhan fwyaf o allbwn diwydiannol dwyrain Morgannwg (ar y ffordd, y gamlas, a’r rheilffordd yn ddiweddarach) i Gaerdydd a’r byd tu hwnt, gan ddod y cyflogwr mwyaf o lafur am filltiroedd o gwmpas. Sefydlwyd y gwaith haearn ym Mhentyrch oherwydd lleoliad y mwynau haearn, lle mae’r Afon Taf yn torri ei ffordd drwy ymyl deheuol maes glo De Cymru. Canfu’r gwneuthurwyr haearn cynnar mai’r ffwrneisiau cynnar mwyaf effeithiol oedd y rhai a adeiladwyd mewn pocedi rhew. Roedd hyn oherwydd bod yr aer oer yn fwy dwys ac yn cynnwys mwy o ocsigen, a oedd yn helpu’r broses. Darganfuwyd hen ffwrneisi yno, y credwyd eu bod yn deillio o’r cyfnod Elisabethaidd, ond yn y pen draw nododd archeolegwyr diwydiannol mai o’r cyfnod Sioraidd, yn yr 1740au, yr oeddynt yn dyddio mewn gwirionedd. Yn 1879 caeodd Gwaith Haearn Pentyrch, ac ni chafwyd llwyddiant wrth geisio ffurfio cwmni newydd, felly yn 1888 gwerthwyd y cyfan o’r eiddo.

Glo

Agorodd Glofa New Lan ym Mhentyrch yn 1872, yn cyflenwi glo o sawl gwythïen, gan gynnwys y wythïen Ddu, y Fforchog, yr Adain Galed a’r Bres, i Waith Haearn Pentyrch gerllaw, fel yr oedd ar y pryd. Cyflogwyd tua 300 o ddynion a bechgyn yn y lofa, gyda dwy ran o dair ohonynt yn gweithio dan ddaear. Yn gynnar ar fore Llun yn 1875, cafwyd ffrwydrad mawr yn y Wythïen Bres a lladdwyd 13 o ddynion ac anafwyd 9 o rai eraill. Parhaodd y pwll i weithio tan y Rhyfel Byd Cyntaf pan drosglwyddwyd dynion i weithio yn y pyllau dwfn newydd yn y cymoedd.

Ar droid/beic:

Mae’r daith yn dechrau a gorffen yn union i’r de o’r maes chwaraeon, ar gornel The Gables a Heol Pant-y-Gored.

Ar y bws:

Yr arosfannau bws agosaf i’r daith yw ar Heol Pant-y-Gored a Bronllwyn, Llwybr Rhif 136. Gellir gweld manylion o’r gwasanaethau ar www.traveline-cymru.info

Yn y Trên:

Ewch ar lein Coryton i Riwbeina ac ymuno â’r daith ar Allt Rhiwbeina. Am amseroedd y trenau, ewch i www.nationalrail.co.uk

Yn y car:

Mae peth parcio cyfyngedig ar gael yn y maes chwaraeon, oddi ar gornel The Gables a Heol Pant-y-Gored.

 

Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â’r daith (neu i adrodd am unrhyw broblemau) cysylltwch â Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ar 029 2078 5200.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd