Llwybr Arfordir Cymru (Caerdydd)

Rhan Caerdydd o Llwybr Arfordir Cymru

Mae rhan Caerdydd o Lwybr Arfordir Cymru yn ymestyn dros 15.60km ac yn ffurfio cyswllt parhaol â Chasnewydd i’r dwyrain a Bro Morgannwg (trwy Benarth) i’r gorllewin. Mae’r cymal hwn yn rhan o Ranbarth 8 Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren.

Mae’r llwybr o Gasnewydd yn y dwyrain yn parhau ar hyd y morglawdd, gyda golygfeydd gwych o Aber Afon Hafren a chyfleoedd da i wylio adar, gyda morfeydd heli a gwastadeddau llaid sy’n denu adar sy’n trochi.

Mae gan Fae Caerdydd ddigon i’w fwynhau gan gynnwys Canolfan y Mileniwm, yr Eglwys Norwyaidd enwog (lle cafodd Roald Dahl ei fedyddio), bwytai a chaffis i gael hoe a mwynhau golygfeydd ar draws y bae.

Mae gan y Morglawdd lwybrau ar wahân ar gyfer cerddwyr a beicwyr ac mae digon i’w weld ac i’w wneud ar hyd y ffordd o’r parc sglefrio, y maes chwarae a’r gampfa awyr agored. Mae arddangosfa awyr agored Capten Scott wedi’i lleoli ar y Morglawdd ei hun, ac mae’r pontydd siglog yn cysylltu’r bae â’r môr.

Cynlluniwch eich ymweliad, ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Fe welwch wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad gan ddefnyddio’r map rhyngweithiol i gynllunio eich llwybr, tablau pellter, teithiau cerdded a mwy.

Dargyfeirio dros dro yng Nghaerdydd

Mae’r llwybr rhwng Ffordd Rover a chyffordd Ffordd Lamby tua Ffordd y Cefnfor wedi’i ddargyfeirio dros dro i mewn tua’r tir yn ystod gwaith ar amddiffynfeydd llifogydd yn deillio o erydiad arfordirol. Dilynwch yr arwyddion llwybr amgen o Ffordd Rover a Stryd Tyndall Ddwyreiniol i ddefnyddio’r opsiwn llwybr mewndirol.

Lleoliad cau Ffordd Rover

What3Words ///bebegin.piper.rooms                  Côd Post CF24 2SA

Lleoliad Stryd Tyndall Ddwyreiniol

What3Words ///guilty.closed.eggs         Côd Post CF24 5NY

Pethau i’w gwneud

wales-coast-path-badgeCewch ddysgu am hanes y llwybr a gweld pwy fu’n rhan o’r gwaith o’i greu. Dysgwch faint yn union o’r Llwybr sy’n mynd ar draws neu’n agos at rai o dirweddau a chynefinoedd gwarchodedig Cymru. Darllenwch am anturiaethau’r unigolion prin hynny sy’n ceisio cerdded o un pen i’r llall. A chewch weld gyda’ch llygaid eich hun beth yw apêl Llwybr Arfordir Cymru trwy ymweld â’r oriel luniau a fideos.

Gwefan Llwybr Arfordir Cymru

Gweler ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Facebook | Youtube
Top
Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd.
Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Datganiad hygyrchedd